Mater - cyfarfodydd

Annual Governance Statement 2020/21

Cyfarfod: 27/07/2021 - Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio (eitem 8)

8 Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2020/21 pdf icon PDF 499 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio a Risg ddrafft Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2020/21 (ynghlwm yn Atodiad A).

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Cadarnhaodd wedyn y cafodd y Datganiad ei baratoi ar ôl casglu tystiolaeth a alwodd ar nifer o adnoddau yn cynnwys adroddiadau rheoleiddiol mewnol ac allanol, adroddiad blynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg a fframwaith tystiolaeth yn dangos sut y gwnaeth yr Awdurdod gydymffurfio gydag egwyddorion creiddiol y Cod Llywodraethiant.

 

Fel canlyniad i Covid, newidiodd rhai o’r ffyrdd yr oedd y Cyngor yn gweithredu newid yn ystod 2020/21 e.e. symud i weithio ystwyth, fodd bynnag, nid yw’r newidiadau hyn wedi gwanhau’r fframwaith llywodraethiant. Cafodd y Datganiad ei gynhyrchu i adlewyrchu’r newidiadau hyn, gyda diweddariadau amlwg i’r gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod dan Egwyddor Greiddiol B, datblygu amcanion llesiant dan Egwyddor Greiddiol B, ehangu gofynion hunanasesu dan Egwyddor Greiddiol D a newidiadau i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio dan Egwyddor Greiddiol G.

 

Cyfeiriodd Aelod at y gweithgareddau ymgysylltu a mynegodd bryder am gwynion a dderbyniwyd gan aelodau o’r cyhoedd am faint o amser y mae’n ei gymryd i gysylltu â’r Cyngor. Mae Aelodau hefyd wedi cael anawsterau mewn cysylltu â Swyddogion.

 

Mewn ymateb esboniodd y Swyddog mai’r gweithgareddau ymgysylltu a amlinellir yn y Datganiad oedd yr ymgysylltu ehangach gyda’r Cyngor. Roedd y cwynion y cyfeiriwyd atynt yn fater gweithredol a dywedodd y Swyddog y byddai’n cyfeirio’r mater hwn i’r Swyddog perthnasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo a mabwysiadu’r Drafft Ddatganiad ar ôl ystyried a herio’r cynnwys, gan sicrhau ei fod yn gyson gyda’u gwybodaeth a dealltwriaeth o’r materion ehangach sy’n effeithio ar y Cyngor.