Mater - cyfarfodydd

Annual Report of the Director of Social Services 2019/20

Cyfarfod: 22/07/2021 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol (eitem 8)

8 Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/20 pdf icon PDF 419 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2019/2020 y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Atodiad 1).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ym mharagraff 6.4 Gwasanaethau Oedolion. Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal sylw at y prif bwyntiau ym mharagraff 6.3 Gwasanaethau Plant.

 

Yng nghyswllt atgyfeiriadau, holodd Aelod os oedd gweithiwr cymdeithasol hefyd yn mynd gyda’r heddlu pan oeddent yn ymweld â theulu ac os oedd swyddog heddlu penodol i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Plant yn Derbyn Gofal ei fod yn dibynnu ar natur yr atgyfeiriad, os oes pryderon am amddiffyn plant ac os oes elfen ymchwiliad troseddol yn gysylltiedig â’r pryderon hynny, yna byddai swyddog heddlu yn mynychu’r atgyfeiriad. Mae tîm penodol o swyddogion heddlu drwy uned diogelu’r cyhoedd a gellid cynnal ymchwiliadau ar y cyd dan Adran 47 o’r Ddeddf Plant lle gallai Gwasanaethau Cymdeithasol wneud ymchwiliadau yng nghyswllt lles y plant a gallai’r heddlu ymchwilio unrhyw elfen droseddol i’r pryderon.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef derbyn yr adroddiad fel y cafodd ei ddarparu.