Mater - cyfarfodydd

Care Inspectorate Wales (CIW) Assurance Check 2021: Blaenau Gwent County Borough Council Social Services

Cyfarfod: 22/07/2021 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol (eitem 7)

7 Gwiriad Sicrwydd 2021 Arolygiaeth Gofal Cymru: Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 415 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn cyflwyno crynodeb gwirio sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru fel y’i dynodir yn y llythyr dyddiedig 11 Mehefin 2021 (Atodiad 1). Diben y gwiriad sicrwydd oedd adolygu pa mor dda y mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yn parhau i helpu a chefnogi oedolion a phlant gyda ffocws ar ddiogelwch a llesiant. Mae’r llythyr yn crynhoi canfyddiadau gwiriad sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru ar 17 Mai i 21 Mai 2021.

 

Rhoddodd yr Arolygydd Arweiniol (Arolygiaeth Gofal Cymru) drosolwg o wiriad sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn eu llythyr dyddiedig 11 Mehefin 2021, sy’n crynhoi pa mor dda mae Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod yn parhau i gefnogi oedolion a phlant bregus drwy gydol y pandemig.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn adroddiad gwych yn dangos pa mor dda yr oedd Blaenau Gwent wedi perfformio yn ystod y pandemig. Dywedodd Aelod eraill fod hynny’n gryn glod gan y gallai Awdurdodau eraill edrych i Flaenau Gwent i weld pa mor dda yr oeddent wedi perfformio a gobeithiai y byddai’r wasg yn rhoi adroddiad ar y neges gadarnhaol.

 

Yng nghyswllt paragraff 6.6 yr adroddiad – ‘roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr a ymatebodd i’n harolwg yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan gydweithwyr a rheolwyr ac yn ystyried bod eu llwyth gwaith yn hylaw’, gofynnodd Aelod am y geiriau ‘rhan fwyaf’. Esboniodd yr Arolygydd Arweiniol ei bod fel arfer yn wir y gallai rhai materion godi yng nghyswllt newid gan nad oedd pob ymarferydd yn hapus i groesawu newid. Roedd yr Arolygydd wedi siarad gyda’r rheolwyr am y mater a theimlai nad oedd o bwys mawr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am broblemau gyda System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS), dywedodd yr Arolygydd fod problemau mawr gyda’r system. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol mai WCCIS oedd y system gyfrifiadurol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a hyrwyddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob un o’r 22 Awdurdod Lleol a 7 Bwrdd Iechyd i gofrestru a gweithredu. Roedd rhai Awdurdodau a Byrddau Iechyd wedi gweithredu’r system ond roedd problemau mawr am ddibynadwyedd a gweithrediad y system. Mae’r Cyfarwyddwr yn gwybod am gynlluniau i uwchraddio a gwneud gwelliannau i’r system a gobeithiai y byddid yn symud ymlaen â hyn yn yr ychydig fisoedd nesaf.

 

Soniodd Aelod am yr adroddiad ardderchog a chanmolodd staff ar sut yr oeddent wedi delio gyda chyfnod anodd y pandemig a’r mesurau a roddodd yr Awdurdod ar waith i alluogi lleoliadau i aros gyda’i gilydd ac i alluogi plant i weld eu teuluoedd a’u brodyr a’u chwiorydd ar gyfnod mor anodd a hefyd y gefnogaeth oedd ar gael i weithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth a phawb arall oedd yn gysylltiedig. Teimlai fod hyn yn newyddion rhagorol i’r Awdurdod.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn adroddiad rhagorol gan asiantaeth allanol a theimlai ei fod yn dangos fod staff mewn cysylltiad gyda’r cleientiaid a gefnogant ac yn dangos fod yr holl Gyngor yn cymryd eu rôl Rhiant Corfforaethol o ddifrif.

 

Adleisiodd Aelodau eraill sylwadau eu cydweithwyr ar yr  ...  view the full Cofnodion text for item 7