12 Anifeliaid Crwydrol PDF 560 KB
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol drosolwg manwl o’r adroddiad a soniodd am broblemau gydag anifeiliaid sy’n crwydro o fewn y Fwrdeistref Sirol. Amlinellodd faint y broblem a’r mannau lle caiff problemau eu hadrodd yn gyson. Cyfeiriodd hefyd at y Cynllun Gweithredu a ddatblygwyd ar y cyd gyda swyddogion a rhanddeiliaid i ddatrys digwyddiadau. Dywedwyd fod yr adroddiad yn un aml-adrannol a bod y Cynllun Gweithredu yn nodi’n glir y rhai sy’n gyfrifol am bob cam gweithredu.
Hysbysodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol wedi cefnogi Opsiwn 2 a chododd bwyntiau a gynhwyswyd yn y Cynllun Gweithredu. Roedd y Pwyllgor Craffu hefyd wedi gofyn am adroddiad ar y goblygiadau cost er mwyn monitro costau’r cynllun.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol mai datganiad safleoliad yw hwn, man dechrau ymgais i ddatrys problemau anifeiliaid sy’n crwydro ar draws y Fwrdeistref.
Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu yn awyddus i gymryd rhan yn y broses ac er na chynhaliwyd cyfarfodydd ffurfiol oherwydd y pandemig, dywedodd yr Aelod Gweithredol ei fod wedi cwrdd yn answyddogol gydag unigolion i drafod gwahanol bryderon. Mae’r cyfarfodydd hyn yn allweddol ac mae’r Aelod Gweithredol yn awyddus i ailddechrau cyfarfodydd gydag Aelodau yn y dyfodol.
Nododd yr Arweinydd fod y Pwyllgor Gweithredol wedi ymwneud â’r Gweithgor a gwyddai am y gwaith da sy’n mynd rhagddo ar draws y Cyngor a chroesawodd ymrwymiad yr Aelod Gweithredol i fynd i’r afael â’r problemau hyn.
Cytunodd y Dirprwy Arweinydd gyda’r sylwadau a wnaed a nododd fod y pryderon yn cael eu codi’n gyson gan breswylwyr. Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y cynllun gweithredu ac ymrwymiad yr Aelod Gweithredol.
Cytunodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd gyda’r sylwadau a wnaed a diolchodd i Aelod Gweithredol yr Amgylchedd ar y cynnydd a wnaed yng nghyswllt anifeiliaid sy’n crwydro ar draws Blaenau Gwent.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyodd y Pwyllgor Gweithredol argymhellion am newidiadau i’r dull gweithredu/Cynllun Gweithredu fel y nodir yn yr adroddiad (Opsiwn 2).