8 Strategaeth Gweithlu 2021-2026 PDF 478 KB
Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad, sy’n rhoi cyfle i’r Pwyllgor Gweithredol ystyried a herio drafft Strategaeth Gweithlu 2021-2026. Amlinellodd y Swyddog brif bwyntiau yr adroddiad a chyfeiriodd at Atodiad 1 sy’n rhoi manylion y Ddrafft Strategaeth.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, cadarnhawyd y caiff y cynllun gweithredu ei fonitro drwy Trosolwg Corfforaethol a’r Pwyllgor Gweithredol.
Gofynnodd yr Arweinydd hefyd sut y byddai cysondeb ymgysylltu â’r gweithlu yn cael ei fonitro. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y byddai ffocws y flwyddyn gyntaf ar weithio ystwyth a bod cynllun ymgysylltu neilltuol i gefnogi hyn. Mae hyn yn cynnwys gweminarau ar gyfer rheolwyr a gweithdai i ennyn diddordeb staff – byddai’r prosesau yn cael eu monitro/trafod gan y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol. Mae hefyd Gynllun Cyfathrebu Corfforaethol sy’n cynnwys elfen neilltuol ar gyfer staff. Ychwanegodd y Swyddog y byddai’r prosesau yn parhau i gael eu hadolygu ac y byddai adolygiad blynyddol o’r trefniadau gweithio ystwyth a fyddai’n cynnwys y gweithlu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chefnogi’r drafft Strategaeth Gweithlu 2021-2026 cyn ei chyflwyno i’r Cyngor i’w chymeradwyo (Opsiwn 1).