21 Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 638 KB
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol at yr adroddiad sy’n rhoi perfformiad diogelu yn ystod 12 mis cyntaf y pandemig a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor Gweithredol fod y broses ddiogelu ac ymweliadau wedi parhau drwy gydol y pandemig i sicrhau fod plant yn cael eu cadw mor ddiogel ag sydd modd, yr un fath â phob blwyddyn arall.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r dull gweithredu a’r wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).