19 Perfformiad a Monitro Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin PDF 443 KB
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth – Pobl Ifanc a Phartneriaethau berfformiad Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac eglurodd drefniadau monitro perfformiad y dyfodol fydd yn ei lle rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r Cyngor. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y gwaith a gafodd flaenoriaeth ers mis Ebrill a’r ymateb i Covid-19. Yn nhermau perfformiad monitro, cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth y Pwyllgor Gweithredol at y cerdyn sgorio gweledol a ddatblygwyd gan yr Ymddiriedolaeth. Byddai’r trefniadau adrodd presennol ynghyd â’r strwythur llywodraethiant newydd yn sicrhau fod perfformiad yr Ymddiriedolaeth yn dryloyw ac atebol. Cyflwynir yr adroddiadau i’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol, y Pwyllgor Craffu, y Pwyllgor Gweithredol a’r Cyd-gr?p Partneriaeth Strategol ar sail chwe misol.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ymhellach fod y berthynas waith rhwng y Cyngor ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin wedi gwella’n fawr yn ystod cam 2 yr adolygiad. Roedd y berthynas waith gadarnhaol hon wedi parhau i wella drwy gydol y cyfnod clo i’r cyfnod ail-agor. Cafodd hyn ei gyfoethogi drwy’r cyfarfodydd strwythuredig wythnosol rhwng y swyddog cyswllt ac uwch reolwyr yn yr Ymddiriedolaeth yn ystod chwe mis cyntaf y cyfnod clo.
Rhoddodd yr Arweinydd groeso i Mr P. Sykes, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin i’r Pwyllgor Gweithredol a chroesawodd Mr. Sykes y trefniadau gwaith rhwng yr Ymddiriedolaeth ac Addysg.
Dymunai’r Aelod Gweithredol Addysg ddiolch i’r Ymddiriedolaeth am eu gwaith caled a’u cefnogaeth i’r Cyngor yn y 18 mis diwethaf. Mae’r Aelod Gweithredol yn edrych ymlaen at adeiladu ar y berthynas gyda’r Ymddiriedolaeth wrth i’r Cyngor a’r Ymddiriedolaeth symud ymlaen i drefniadau gwaith sy’n fwy fel busnes fel arfer.
Cytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau a wnaed a chanmolodd yr Ymddiriedolaeth am y gwaith gan fod y cyfleusterau yn y canolfannau chwaraeon, y llyfrgelloedd a’r canolfannau addysg oedolion yn rhagorol. Croesawodd Arweinydd y berthynas waith well rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth , sy’n enghraifft o weithio partneriaeth cadarnhaol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ynghyd â’r perfformiad blynyddol a’r cynigion ar gyfer trefniadau adrodd yn y dyfodol (Opsiwn 1).