9 Buddsoddiad Bwrdeisiol Cymunedol PDF 525 KB
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
Rhoddodd y Pennaeth Adfywio drosolwg manwl o’r adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth i symud ymlaen â Buddsoddiad Ynni Cymunedol fel offeryn ariannol i gyllido seilwaith cynhyrchu ynni carbon isel a thechnoleg i ddarparu ynni a gwres i breswylwyr a busnesau Blaenau Gwent.
Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad a nododd mai hwn oedd cam cyntaf y peilot ac y cyflwynir adroddiadau pellach dros gyfnod i hysbysu’r Pwyllgor Gweithredol sut mae’r rhaglen yn mynd yn ei blaen. Dywedodd yr Aelod Gweithredol mai ynni oedd un o’r costau mwyaf i breswylwyr a busnesau a bod y peilot hwn yn anelu i ostwng y gorbenion hyn, felly roedd y buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a sut y cynhyrchir ynni yn allweddol i’r Awdurdod. Mae hwn yn gyfle buddsoddiad rhagorol i breswylwyr a busnesau a gobeithiai’r Aelod Gweithredol y byddai’r prosiect yn sicrhau arbedion ynni yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1, sef symud ymlaen gyda lansio Bond Cymunedol:-
a) Symud ymlaen gyda phrosiect SocialRes a gweithio tuag at ddatblygu cynnig Bond Cymunedol.
b) Byddai hyn yn cynnwys cynnal diwydrwydd dyladwy dechreuol o’r cytundebau cyfreithiol a’r dull gweithredu cyffredinol ond mae digonedd o gyllid ar gael er mwyn cynnal y gwerthusiad sydd ei angen.
c) Drwy ddilyn Opsiwn 1, byddai’r Cyngor yn cael mynediad i fuddsoddiad ariannol am gost is i gefnogi gyda datblygu’r prosiectau yn yr arfaeth a amlinellir ym Mhrosbectws Ynni 2019.
d) Gellid defnyddio hyn i gymryd lle neu wrth ochr cyllid y Bwrdd Benthyca Gweithiau Cyhoeddus (PWLB). Gellid ystyried cynigion bond pellach yn y dyfodol os yw’r cynllun peilot yn llwyddiannus.