Mater - cyfarfodydd

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyfarfod: 14/07/2021 - Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) (eitem 7)

7 Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 638 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i roi gwybodaeth am ddiogelu a dadansoddiad gan Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Addysg rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.

 

Gwybodaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Siaradodd y Rheolwr Tîm Diogelu Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod mai’r heddlu yw’r atgyfeiriwr uchaf a chyfeiriodd at baragraff  6.3.2 yr adroddiad yng nghyswllt prosesau a ddatblygwyd rhwng Addysg a’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ysgolion a theimlai y gellid o bosibl ymestyn hyn rhwng ysgolion, yr heddlu a’r gymuned. Cyfeiriodd hefyd at baragraff 6.3.4 am y nifer o ddigwyddiadau bwlio a ddynodwyd gan blant a phobl ifanc fel problem sydd angen ei monitro’n agos a theimlai y gallai hyn fod yn lledaenu allan i’r gymuned gan achosi mwy o atgyfeiriadau gan yr heddlu.

 

Dywedodd Aelod arall fod y ffigurau ar gyfer atgyfeiriadau wedi cynyddu drwy gydol y flwyddyn, a allai fod oherwydd y pandemig, ond bod atgyfeiriadau gan Gwasanaethau Ieuenctid yn gostwng yn sylweddol.

 

Atebodd y Rheolwr Tîm Diogelu y byddai’n codi’r pwyntiau uchod gyda’r cydweithwyr priodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y bu gostyngiad bach yng nghyfanswm yr atgyfeiriadau gan Gwasanaethau Ieuenctid a theimlai fod hyn oherwydd llai o gyswllt wyneb i wyneb gyda phlant a phobl ifanc.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 19 – Ffigur 2.8: mae hyn yn cyfeirio at gynadleddau adolygu ac mae’r canran a gynhaliwyd o fewn yr amserlen yn dangos 100% ar gyfer Ch1 a Ch4, 84.4% ar gyfer Ch2 a 96.2% ar gyfer Ch3. Nid yw’r data a roddir yn achosi consyrn. Gofynnodd yr Aelod i’w frawddeg olaf “nid yw’r data a roddwyd yn achosi consyrn” gael ei hail-eirio. Cytunodd Rheolwr y Tîm Diogelu i newid y geiriad yn y frawddeg hon.

 

Yng nghyswllt nifer uchel atgyfeiriadau gan yr heddlu, teimlai Aelod nad oes angen i’r holl atgyfeiriadau gael eu cyfeirio at Gwasanaethau Cymunedol. Dywedodd y Rheolwr Tîm Diogelu fod hynny’n dibynnu ar natur yr atgyfeiriad.

 

Cododd Aelod arall bryderon am atgyfeiriadau gan yr heddlu a holodd os oes proses dilyn lan gyda Thîm Diogelwch y Gymuned a’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol gan y teimlai fod peth ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei achosi gan droseddwyr mynych. Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Diogelu fod yr heddlu yn ymweld â throseddwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych i geisio rhoi sicrwydd i gymunedau. Mae Tîm Diogelwch y Gymuned yn rhagweithiol wrth geisio gweithio gyda chymunedau a gweithwyr proffesiynol eraill i ostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol. Pe byddai gweithiwr cymdeithasol yn dod i wybod am ymddygiad neilltuol gan blentyn drwy atgyfeiriad gan yr heddlu, yna byddai cymorth yn cael ei roi yn ei le i ostwng yr ymddygiad hwnnw. Teimlai’r Aelod y dylai fod mwy o gydweithredu rhwng asiantaethau gan fod mwy a mwy o deuluoedd angen cymorth.

 

Os oes oedolion bregus yn gysylltiedig, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai Gwasanaethau Plant yn cysylltu gyda Gwasanaethau Oedolion ac y byddai Gwasanaethau Oedolion wedyn yn ymweld â’r  ...  view the full Cofnodion text for item 7