Mater - cyfarfodydd

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

Cyfarfod: 11/06/2021 - Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu (eitem 4)

4 Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 2 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

 

 

Cofnodion:

C/2020/0246

5 Fairview Terrace, Heol Tyleri, Abertyleri, NP13 1JD

Cadw balconi a balconi dros estyniad cefn un llawr, drysau Ffrengig a gosod system CCTV yn cynnwys 3 camera ar y tu blaen a 3 camera yng nghefn yr annedd

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu y gwneir cais i gadw balconi a drysau Ffrengig i gefn yr annedd ynghyd â gosod canopi tynnu’n ôl drosto. Mae’r cais hefyd yn gofyn am gadw 6 camera CCTV, 3 ar y tu blaen a 3 yng nghefn yr annedd. Rhoddodd y Rheolwr Tîm drosolwg o’r cais cynllunio gyda chymorth ffotograffau. Nodwyd nad oedd ymgyngoreion allanol wedi codi unrhyw faterion, fodd bynnag amlinellodd y Rheolwr Tîm yr ymatebion allweddol i gwynion gan breswylwyr.

 

Siaradodd y Rheolwr Tîm ymhellach am yr adroddiad ac amlinellodd yr asesiad cynllunio yn nhermau’r balconi, drysau Ffrengig, canopi a CCTV. Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yng nghyswllt adeiladwaith a gorffenion y balconi ac atgoffodd Aelodau nad yw cynllunio yn rheoli safon saernïaeth datblygiad. Byddai Rheoli Adeiladu yn rheoleiddio’r elfennau cydymffurfiaeth hyn i sicrhau y cafodd y balconi ei godi’n ddiogel ac yn foddhaol. Yn nhermau’r gorffenion, mae’r cais yn dweud bod y balconi yn bren a fyddai’n cael cladin a rendr a’i beintio’n llwyd a ystyriwyd yn dderbyniol. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fwriad i gwblhau’r gwaith yn unol â’r amserlen. Gellid gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith gael ei gwblhau yn unol â’r amserlen o fewn cyfnod o 6 mis.

 

Yn nhermau effaith, byddai goredrych fodd bynnag ni fyddai hyn yn ddim gwahanol i’r olygfa o’r ffenestri. Felly roedd  y Rheolwr Tîm, yn argymell gosod amod fyddai angen sgrin breifatrwydd a’r balconi i gael eu hadeiladu gyda’r deunyddiau addas er mwyn gwarchod amwynder y gymdogaeth.

 

Nododd y Rheolwr Tîm ymhellach bryderon am y chwe uned camera a osodwyd o amgylch yr annedd ac atgoffodd Aelodau fod agweddau cynllunio’r achos wedi eu cyfyngu i ymddangosiad ffisegol y camerâu a’r effaith weledol y byddent yn eu cael ar yr adeilad y cawsant eu gosod arno. Nid oedd cynnwys yr hyn a fyddai’n cael ei recordio a sut y byddai’r data hwnnw yn cael ei drin yn ystyriaeth cynllunio berthnasol. Caiff recordio data ar CCTV ei reoleiddio gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n rheoleiddio ac yn gweithredu’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Yng nghyswllt sylw gan wrthwynebydd am Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000, dywedodd y Rheolwr Tîm, hefyd nad oedd hyn yn fater cynllunio a bod y Ddeddf yn cyfeirio at reoleiddio sut mae cyrff cyhoeddus yn cynnal goruchwyliaeth ac nad yw’n ymwneud â CCTV mewn cartrefi.

 

Nododd y Rheolwr Tîm y tri chamera ar du blaen yr annedd a dywedodd y gellid ystyried hynny yn ormodol, fodd bynnag oherwydd eu maint a lleoliad y camerâu gwyn ar du blaen yr annedd oedd hefyd wedi’i pheintio’n wyn, nid yw’r camerâu yn sefyll mas. Fodd bynnag, teimlai na fyddai golwg y camerâu yn cael effaith niweidiol ar y strydlun.

 

I gau, nododd  ...  view the full Cofnodion text for item 4