Mater - cyfarfodydd

Commercial Strategy Quarterly Performance Monitoring

Cyfarfod: 16/04/2021 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (eitem 7)

7 Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Fasnachol pdf icon PDF 594 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol. 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Interim Masnachol am yr adroddiad sy’n amlinellu Chwarter 4 y Strategaeth Fasnachol. Dywedodd y Prif Swyddog Interim y caiff gweithgareddau masnachol y Cyngor eu gyrru gan yr uchelgais a fanylir yn y Strategaeth. Mae’r pandemig yn parhau i gael effaith ar gyflenwi’r Strategaeth, fodd bynnag gwnaed cynnydd sylweddol yn Chwarter 4 a chyfeiriodd Aelodau at y gweithgaredd allweddol a gaiff ei grynhoi yn yr adroddiad yn unol â themâu ac uchelgeisiau allweddol y Cyngor.

 

Codwyd y cwestiynau dilynol ar y pwynt hwn ac ymateb iddynt yn unol â hynny:-

 

Bwrdd Strategol Comisiynu a Masnachol – cadarnhawyd fod y Bwrdd yn cynnwys y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol a swyddogion Cyfreithiol, Adnoddau a Chaffael.

 

Cronfa Democratiaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru – dywedwyd fod y gronfa yng nghyswllt ymchwil defnyddwyr gyda phobl ifanc 16 i 25 oed i gael dealltwriaeth o sut mae pobl ifanc yn cael mynediad i’r gronfa ddemocratiaeth a chael adborth ar eu profiadau.

 

Canolfan Gyswllt – codwyd pryderon am y Ganolfan Gyswllt, yn arbennig bod y ‘Gwasanaeth Allan o Oriau’ yn cael ei gyrchu tu allan i Flaenau Gwent gan ei bod yn bwysig fod gweithredwyr yn adnabod yr ardal leol. Gofynnwyd hefyd i Aelodau Etholedig gael eu hysbysu os oes unrhyw newidiadau.

 

Cadarnhaodd Swyddog y byddid yn ceisio darpariaeth gwasanaeth lleol. Dywedodd y Swyddog ymhellach fod nifer o gamau gweithredu yn cael eu dilyn gyda SRS i drin y materion a godwyd.

 

Cau’r Ganolfan Ddinesig – codwyd pryderon am y gwasanaethau a gynigir yn y Ganolfan Ddinesig drwy’r Derbynnydd a gofynnodd os y byddai’r gwasanaethau hyn, tebyg i geisiadau Bathodyn Glas, ar gael yn yr Hybiau cymunedol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol yr edrychir ar holl agweddau’r gwasanaethau sydd ar gael yn y Ganolfan Ddinesig er mwyn deall anghenion cwsmeriaid. Byddai’r data yn cael ei gasglu a’i gyfathrebu i Aelodau i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu amdanynt.

 

Neges Ddwyieithog y Ganolfan Gyswllt – dywedwyd fod preswylwyr wedi codi pryderon gydag Aelodau mai cyfarchiad Cymraeg oedd gyntaf gan y Ganolfan Gyswllt. Roedd yn neges hir ac mewn rhai achosion yn gostus i’r preswylwyr. Gofynnodd Aelod os y gallai’r Saesneg ddod yn gyntaf, sef yr hyn sy’n digwydd mewn rhai awdurdodau lleol eraill.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog Interim Masnachol yr Aelodau fod gan y Cyngor ddyletswydd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg a dywedodd y gellid ymchwilio’r cais hwn. Fodd bynnag, mae’n bwysig fod y Cyngor yn gweithredu o fewn ei gyfrifoldeb dan y Ddeddf.

 

Amserau Galw i’r Ganolfan Gyswllt – mewn ymateb i bryderon a godwyd yng nghyswllt cost amserau aros oedd weithiau yn faith i’r Ganolfan Gyswllt, dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol y caiff amserau aros eu monitro fel rhan o’r trefniadau perfformiad gwasanaeth ac y byddid yn datblygu gwelliannau megis system ciwio.

 

Rhifau Symudol Swyddogion – oherwydd trefniadau gweithio ystwyth, dywedwyd nad oedd rhai swyddogion brin yn y swyddfa a’u bod wedi cael ffonau symudol. Gofynnodd Aelod os y gellid rhoi’r rhifau ffôn  ...  view the full Cofnodion text for item 7