6 Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol – Diweddariad Chwarterol PDF 424 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.
Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol fod yr adroddiad yn rhoi cynnydd fel yn Chwarter 4 ar y Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol. Siaradodd y Prif Swyddog Interim am yr adroddiad a dywedodd fod y pandemig wedi golygu fod cyflenwi’r strategaeth yn canolbwyntio’n llwyr ar y cyfathrebu yn gysylltiedig â Covid-19. Daeth pwysigrwydd cyfryngau digidol a chymdeithasol hyd yn oed yn fwy sylweddol yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau y caiff ein cymunedau eu hysbysu.
Nodwyd fod y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol yn aelod allweddol o Gr?p Rhybuddio a Hysbysu Fforwm Gwent Gadarn. Mae’r Gr?p yn gyfrifol am alinio cyfathrebu a chyfathrebu gwybodaeth allweddol i breswylwyr Gwent yn ystod y pandemig. Nododd y Prif Swyddog Interim Masnachol bwysigrwydd y Tîm gan sicrhau ymagwedd gyson rhwng partneriaid lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Oherwydd fod y pandemig yn newid yn barhaus, bu angen llif cyson o wybodaeth ac mae angen i hynny fod yn glir ac effeithlon yn ogystal â chael ei chydlynu rhwng pob sector.
Rhoddodd y Prif Swyddog Interim Masnachol amlinelliad pellach o nodau’r Cynllun Cyfathrebu yng nghyswllt ymateb Covid-19 fel y manylir yn yr adroddiad.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol wedi ystyried diweddariad Chwarter 4 (Ionawr i Mawrth 2021) ar y Strategaeth Gyfathrebu cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol.