Mater - cyfarfodydd

Action Sheet - 5th March 2021

Cyfarfod: 16/04/2021 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (eitem 5)

5 Dalen Weithredu – 5 Mawrth 2021 pdf icon PDF 93 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2021, yn cynnwys:-

 

CCTV

 

Gofynnodd Aelod pryd y medrid disgwyl yr adroddiad i adolygu cydraddoldeb o ran darpariaeth CCTV. Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol y byddai angen casglu data dros gyfnod a chynnwys gwybodaeth a gafwyd o gyfarfodydd gydag Aelodau. Byddai’r canfyddiadau hyn wedyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r adroddiad monitro blynyddol.

 

Teimlai’r Aelod mai gorau po gyntaf y gellid mynd i’r afael â’r materion hyn gan fod anghenion cymunedau yn newid yn barhaus.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol fod angen cyfnod monitro cyn y gellid cyflwyno adroddiad cynnydd/diweddaru.

 

Pwysleisiodd yr Aelod nad oedd unrhyw gamerâu yn Ward Nantyglo a theimlai felly ei bod yn bwysig i’r Ward y caiff diweddariadau eu derbyn yn fwy rheolaidd nag unwaith y flwyddyn.

 

Cytunodd Aelod arall gyda’r pryderon a godwyd a dywedodd fod Aelodau eisiau gweld cynnydd. Ychwanegodd yr Aelod fod gan awdurdodau eraill yng Ngwent gysylltiadau uniongyrchol gyda’r Cwmwl ac felly roedd gan yr Heddlu luniau fel maent yn digwydd. Dyma’r hyn mae preswylwyr ac Aelodau ei angen. Byddai’n dangos fod y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu i roi sicrwydd fod ein preswylwyr yn ddiogel.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol, yn dilyn cyswllt pellach gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, na fu newid yn eu sefyllfa ac nad oedd cyllid ar gael. Nododd yr Aelod fanteision bod wedi cysylltu â’r Cwmwl, fodd bynnag os nad oes unrhyw gamerâu mewn rhai lleoedd yna ni fyddai unrhyw fudd i’r ardaloedd hynny. Mae’r Aelod yn edrych ymlaen at adroddiadau yn y dyfodol i fonitro cynnydd ar y mater hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.