5 Cynnig i Ymgynghori ar gynyddu capasiti Pen y Cwm PDF 576 KB
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyfeiriodd Aelod at wrthdaro buddiant gan fod rhai Aelodau o’r Pwyllgor hwn hefyd yn Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg na chredai y bydd gwrthdaro buddiant gan y byddai’r drafodaeth yn rhoi sylw i’r potensial ar gyfer ailwampio adeilad presennol Ysgol Pen y Cwm ond na fyddai’n canolbwyntio ar fanylion o safbwynt cynllunio a theimlai y gallai Aelodau gymryd rhan a chynnig eu barn a’u sylwadau am y cynnig.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i geisio barn y Pwyllgor Craffu ac Addysg yng nghyswllt y cynnig i ymestyn capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm o 120 i 175 disgybl, gan ateb y galw am leoedd. Byddai’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yn ymgynghorai statudol os bydd y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi caniatâd i’r cynnig i symud ymlaen at ymgynghoriad.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Addysg sylw at ddiwygiad yn yr adroddiad ym mharagraff 2.13 sef bod yr ymgynghoriad i ddod i ben ddydd Sul 6 Mehefin 2021, ac nid 6 Mai fel y nodir yn yr adroddiad.
Holodd Aelod os byddai angen staff ychwanegol pe byddai’r ysgol yn cyrraedd ei chapasiti llawn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y gallai unrhyw oblygiadau staffio ychwanegol gael eu trin yn y gwahaniaethyn posibl rhwng y gyllideb bresennol a’r gyllideb arfaethedig, a fyddai’n £575,000 ychwanegol, yn dibynnu ar anghenion dysgwyr. Byddai angen o bosibl i’r elfen honno o’r gyllideb i gyllido staff ychwanegol i gefnogi dysgwyr yn y safle.
Cododd Aelod bryderon am y nifer fach o leoliadau tu allan i’r sir y darperir ar eu cyfer. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y cynhaliwyd yr adolygiad dechreuol gan y tîm Cynhwysiant, fodd bynnag byddai angen adolygiad mwy manwl yn y dyfodol. Caiff lleoliadau tu allan i’r sir eu penderfynu ar yr anghenion ac amgylchiadau sy’n gysylltiedig gyda phob disgybl unigol ac yn yr adolygiad dechreuol rhagwelwyd mai 5 oedd y nifer uchaf y gellid dod â nhw’n ôl i’r Awdurdod Lleol ar hyn o bryd. Lle mae capasiti ac y gallai anghenion disgyblion unigol gael eu diwallu o fewn yr Awdurdod Lleol yna byddai’r tîm yn edrych ar ddod â mwy o leoliadau allan o’r sir yn ôl i’r Awdurdod Lleol.
Yng nghyswllt y capasiti hysbysodd y Cyfarwyddwr Addysg yr Aelodau mai’r capasiti yn y tymor byr yw 175 disgybl. Byddai cam 2 yn ystyried y trefniadau mwy tymor canol i hirdymor a’r potensial i gynyddu capasiti ymhellach mewn blynyddoedd dilynol.
Holodd Aelod os byddai’r capasiti o 175 disgybl yn ddigonol yn y dyfodol agos neu os byddai mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael yn yr ysgol eto gyda’r cynnydd yn nifer disgyblion ADY. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y ffocws ar ddelio gyda galw yn y dyfodol rhagweladwy ond wedyn byddai angen adolygu capasiti yn yr ysgol fel rhan o gam 2. Ychwanegodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod y ffocws ar y blaenoriaethau cyntaf a thrin y gwaith a ... view the full Cofnodion text for item 5