Mater - cyfarfodydd

Estyn Thematic Review - Blaenau Gwent’s Response to COVID-19

Cyfarfod: 09/03/2021 - Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu (eitem 6)

6 Adolygiad Thematig Estyn – Ymateb Blaenau Gwent i COVID-19 pdf icon PDF 503 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Addysg a Dysgu i adolygu adroddiad Adolygiad Thematig Estyn sy’n amlinellu’r naratif ar yr ymateb corfforaethol i sefyllfa COVID-19, yn arbennig yn cefnogi ysgolion yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 32 yr adroddiad a gofynnodd am ddiweddariad ar nifer y disgyblion bregus a fynychodd ddarpariaeth hyb rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r nifer bresennol yw 120.

 

Rhoddodd yr Aelod Cyfetholedig ymateb i’r adolygiad thematig o safbwynt penaethiaid ysgolion. Dywedodd y bu’r ychydig fisoedd diwethaf yn heriol iawn yng nghyswllt ceisio cynnal safon dda o addysg ar gyfer disgyblion pan oedd cynifer o’r staff wedi gorfod ynysu. Bu dau faes o gynnydd cyflym ym Mlaenau Gwent, y cyntaf yw’r cynnydd sylweddol mewn defnyddio technoleg gwybodaeth yn fwy effeithlon i gefnogi disgyblion gyda dysgu o bell, yr ail oedd y lefel  cydweithio gydag ysgolion a swyddogion awdurdod lleol. Bu ymgynghoriad clir a chytundeb llwyr ar bob penderfyniad mawr. Mae hyn yn rhoi mwy o eglurdeb i rieni oherwydd fod dull gweithredu cyson gan bob ysgol a theimlid ei fod wedi helpu i gyfyngu lledaeniad y pandemig. Mae’n dda nodi fod Estyn wedi cydnabod y lefel hon o gefnogaeth, cydweithio ac ymddiriedaeth ac yn gobeithio y byddai’n parhau i’r dyfodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff cyntaf tudalen 33 – ‘Nid yw’n ymddangos fod y trefniadau interim ar gyfer swydd cyfarwyddwr corfforaethol neu ddiffyg swyddog arweiniol gwella ysgolion wedi cael effaith negyddol ar allu’r awdurdod lleol i gefnogi ysgolion yn ystod y pandemig’. Teimlai ei bod yn bwysig sôn fod y Cyfarwyddwr presennol wedi cymryd drosodd ar sail dros dro ar ddechrau’r pandemig a theimlai y dylid llongyfarch y Cyfarwyddwr a’i holl staff ar eu gwaith ers dechrau’r pandemig.

 

Mynegodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor eu gwerthfawrogid a chytuno gyda sylwadau eu cydweithiwr.

 

Cyfeiriodd Aelod at arbedion o £210,000. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn amlygu tanwariant y portffolio ar yr adeg honno yn gysylltiedig â gostyngiad costau, nid arbedion refeniw mohonynt ond y sefyllfa ariannol yr adeg honno. Yng nghyswllt monitro cyllideb, caiff y costau ychwanegol yn gysylltiedig gyda Covid tebyg i arlwyo a glanhau eu hariannu gan bennaf drwy gymorth cronfa caledi Llywodraeth Cymru, heb hynny byddai’r Gyfarwyddiaeth mewn sefyllfa ariannol anffafriol.

 

Mynegodd Aelod ei werthfawrogiad am gymorth amhrisiadwy dysgwyr bregus o’r tîm Cynhwysiant a chydnabu waith da y tîm Gwasanaethau Ieuenctid yng nghyswllt dosbarthu cyfrifiaduron a donglau i alluogi ieuenctid i fynd ar-lein. Croesawodd adroddiad yr Adolygiad Thematig sy’n dangos y dull gweithredu yn ystod dyddiau cynnar y pandemig ac ailagor ysgolion, fodd bynnag roedd ganddo bryderon nad oedd yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd yr Aelod yn falch i nodi ein bod fel Awdurdod Lleol wedi cyflwyno’r pump argymhelliad a amlygwyd yn yr adroddiad i Lywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at recriwtio, adfer, codi safonau a chyllid grant cyflymu  ...  view the full Cofnodion text for item 6