4 Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Mawrth 2021 PDF 395 KB
Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
Gadawodd y Cynghorydd W. Hodgins y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau yr wybodaeth ddiweddaraf yng nghyswllt yr apêl a gollwyd ar gyfer fferm solar DNS yn Nhredegar a dywedodd, er na chafwyd anfoneb hyd yma, y byddai’r costau tua £20,000 heb unrhyw gyllideb benodol ar gyfer y costau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.