9 Defnyddio Ymgynghorwyr PDF 485 KB
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy’n rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghyswllt y gwariant a wnaed yn ystod 2018/2019 a 2019/2020 ar ddefnydd ymgynghorwyr i gefnogi, atodi ac ategu gwaith Swyddogion ar draws y Cyngor.
Dywedodd mai mantais defnyddio ymgynghorwyr yw mai dim ond am gyfnod byrrach mae eu hangen sy’n galluogi’r Cyngor i dalu am unrhyw sgiliau neilltuol pan mae eu hangen a dim ond pan mae eu hangen. Mae hyn yn aml yn ddefnydd effeithlon o adnoddau’r Cyngor ac yn osgoi’r angen i gyflogi staff ychwanegol gyda gwybodaeth a sgiliau arbenigol, ar sail barhaol.
Gwariodd y Cyngor gyfanswm o £0.7m yn ystod 2018/2019 a £1.1m yn 2019/20 ar ymgynghorwyr ar draws pob gwasanaeth, ac mae’r Atodiad i’r adroddiad yn dynodi’r ymgynghorwyr hynny, y costau a’r rheswm dros eu cyflogi yng nghyswllt portffolio’r Amgylchedd.
Gofynnodd Aelod pa mor aml mae cyflogi ymgynghorwyr wedi arwain at fynd ymlaen â phrosiectau.
Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr Atodiad yn dynodi nifer o feysydd lle mae defnydd ymgynghorwyr wedi arwain at sicrhau cyllid allanol ychwanegol.
Dywedodd yr Aelod y byddai dadansoddiad o’r ffigurau yn fanteisiol yn nhermau’r swm a wariwyd ar ymgynghorwyr o gymharu gyda’r prosiectau y symudwyd ymlaen â nhw.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’n rhoi dadansoddiad o’r ffigurau yng nghyswllt portffolio’r Amgylchedd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Dilynodd trafodaeth fer pan esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, lle sicrheir cyllid allanol, y gall hyn fod yn rhan o brosiect mwy y gall y Cyngor hefyd fod yn cyfrannu ato.
Cyfeiriodd Aelod at yr Atodiad a gofynnodd am eglurhad ar y prosiect Gwastraff. Mynegodd gonsyrn hefyd am y risg o ddefnyddio cronfeydd oedd wedi eu clustnodi ar gyfer cyfleuster profi ac olrhain.
Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y prosiect Gwastraff yn brosiect ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Sir Fynwy. Dywedodd fod y gost yn wariant unwaith-yn-unig yng nghyswllt cyngor cyfreithiol arbenigol sydd ei angen i sefydlu’r trefniant ar y cyd ac y caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Yng nghyswllt y prosiect profi ac olrhain, teimlai y bu’r cyngor arbenigol yn ddefnyddiol ac angenrheidiol i gyflawni prosiect o’r math hwnnw a theimlai Aelodau hefyd mai dyma’r dull cywir i ddynodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer y Cyngor. Mae’r gwariant o gronfeydd wrth gafn a glustnodwyd ac nid yw o anfantais i unrhyw brosiectau eraill.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r defnydd o ymgynghorwyr (Opsiwn 1).