Mater - cyfarfodydd

Position Report Fly Grazing Horses

Cyfarfod: 01/03/2021 - Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol (eitem 8)

8 Adroddiad Sefyllfa Ceffylau sy’n Pori’n Anghyfreithlon pdf icon PDF 730 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd.

 

Cyflwynodd Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg ar fater ceffylau sy’n pori’n anghyfreithlon o fewn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r adroddiad yn amlinellu maint y broblem, yn cynnwys dynodi lleoliadau daearyddol lle rhoddir adroddiadau cyson am y broblem, a nododd y fframwaith deddfwriaethol a pholisi a ddefnyddir i ddatrys digwyddiadau.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod fod adroddiadau niferus am bori anghyfreithlon yn yr ardal o dir glas yn West Side, Blaenau, ond na chafodd ei gynnwys yn yr adroddiad. Dywedodd hefyd fod y ffigurau’n ymddangos yn eithaf isel a holodd sut y cânt eu cofnodi, gan y derbynnir cwynion drwy wahanol lwybrau, h.y. iechyd yr amgylchedd, lles anifeiliaid a hefyd stadau.

 

Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at y ddeddfwriaeth a dywedodd fod pryder y byddai’r Cyngor yn gyfrifol am unrhyw faterion llesiant ceffylau sy’n pori’n anghyfreithlon ar dir y Cyngor. Cyfeiriodd wedyn at adran 2.6 yr adroddiad a gofynnodd faint oedd cost y gwaith ar y cyd i’r Cyngor. Yn nhermau’r cynigion a amlinellir yn yr adroddiad, gobeithiai y byddai buddsoddiad wrth weithredu yn atal troseddwyr mynych.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog y byddai’n cysylltu gyda’r Aelod parthed yr ardal tir glas yn West Side, Blaenau. Fodd bynnag, yng nghyswllt y ddeddfwriaeth a phryderon am gyfrifoldeb am berchnogion tir, dywedodd y Swyddog mai perchnogion y ceffylau fyddai’n gyfrifol yn y pen draw am eu llesiant. Os cymeradwyir yr adroddiad, dywedodd y byddai’n galluogi Swyddogion i  fynd ymlaen i symud ceffylau o dir yn syth, yn achos troseddwyr mynych hirdymor; a rhoddodd sicrwydd am lesiant ceffylau pe byddai hyn yn digwydd.

 

Cyfeiriodd y Swyddog wedyn at y costau ar gyfer y gwaith ar y cyd a wnaed yn 2013/14, a chadarnhaodd fod hyn tua £3k ac y cafodd ei gyllido’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y cafodd y gwaith ar y cyd ei gyflawni drwy gydweithrediad a chefnogaeth elusennau ceffylau a grwpiau hawliau lles anifeiliaid, a bu’n llwyddiannus iawn. Nid oes unrhyw broblemau sylweddol wedi codi ers y dyddiad hwnnw.

 

Yng nghyswllt sylwadau gan Aelod am y ffigurau, cadarnhaodd y Swyddog y caiff pob cwyn am bori anghyfreithlon ar dir y Cyngor eu cofnodi gyda’r Adran Stadau.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Stadau a Rheoli Asedau Strategol y cafodd y data ei baratoi o gofnodion o fewn yr Adran a gwybodaeth Swyddogion o drin cwynion o bori anghyfreithlon. Mae cofnodion mwy cywir yn cael eu cadw yn awr ac ymddangosai fod nifer o achosion o bori anghyfreithlon bob blwyddyn a throseddwyr mynych.

 

Dilynodd trafodaeth pan awgrymodd Aelod y gellid hefyd gynnal trafodaethau gyda Tai Calon am bosibilrwydd dull partneriaeth at y broblem o anifeiliaid yn crwydro.

 

Dywedodd Aelod y bu anifeiliaid yn crwydro yn broblem am flynyddoedd lawer a dywedodd fod angen adolygu contract y Cyngor gyda Chyngor Sir Powys.

 

Cynigiodd Aelod yr ychwanegiad dilynol i Opsiwn 1 yr adroddiad:

 

‘Ac argymhellodd fod y Cyngor yn edrych ar weithio gyda phartneriaid a chael caniatâd i  ...  view the full Cofnodion text for item 8