Mater - cyfarfodydd

Action Sheet - 23rd November 2020

Cyfarfod: 23/02/2021 - Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) (eitem 5)

5 Dalen Weithredu – 23 Tachwedd 2020 pdf icon PDF 204 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020, yn cynnwys:

 

Eitem 8 Monitro’r Gyllideb Gyfalaf 2020/21

Chwarter 1 – Dyraniad Cyllid Splash Pad/Offer Chwarae

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, esboniodd Aelod yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod blaenorol y dywedwyd y cafodd y penderfyniad i ailddyrannu cyllid y splash pad ei gymryd gan y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol dan bwerau dirprwyedig mewn ymgynghoriad gydag Arweinydd y Cyngor.

 

Dywedodd Aelod iddo ofyn am yr wybodaeth ar y gwariant ar feysydd chwarae plant yn cynnwys materion a godwyd yng nghyswllt y cyllid splash pad, a’r ffaith y teimlai rhai Aelodau fod diffyg tryloywder yn y camau a gymerwyd ers i’r splash pad gael ei glustnodi i ddechrau ar gyfer Parc Bryn Bach.

 

Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at y dadansoddiad cyllid a roddwyd (atodir gyda’r Ddalen Weithredu) a mynegodd bryder am degwch cyllido ar draws y Fwrdeistref gan fod y rhan fwyaf o’r prosiectau yn y cwm dwyreiniol.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd y gwariant o £185k ym Mharc Bryn Bach ei gyllido drwy gynllun Parciau Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru ac y cafodd ei gynnwys gyda’r nodyn gwybodaeth i roi’r cyfanswm gwariant a buddsoddiad mewn ardaloedd chwarae ar draws y Fwrdeistref.

 

Gofynnodd Aelod am sicrwydd y cafodd cyllid ar gyfer chwarae teg ei wasgaru’n deg ar draws y Fwrdeistref.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod yr holl wybodaeth yn y nodyn gwybodaeth a atodir i’r Ddalen Weithredu, a chadarnhaodd y cafodd cyllid ei ddyrannu yn unol â’r blaenoriaethau a ddynodwyd yn y strategaeth a gytunodd y Cyngor ar ardaloedd chwarae.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y rhestr o brosiectau a dywedodd y cafodd y gwaith ei wneud ym Mharc Dyffryn ac nid y Parc Canolog fel y dywedwyd. Mynegodd bryder hefyd nad oedd aelodau lleol wedi cael eu diweddaru ar y gwaith ac na ofynnwyd iddynt am eu mewnbwn.

 

Yn nhermau’r camau gweithredu a gymerwyd yng nghyswllt y splash pad, dywedodd Aelod mai ei atgof oedd bod yr Ymddiriedolaeth Hamdden wedi dweud nad oeddent mewn sefyllfa i gyflawni’r prosiect oherwydd y costau rhedeg cyfredol fyddai eu hangen. Dywedodd y cafodd yr Aelodau eu hysbysu am hyn ynghyd ag esboniad pam y bwriedir symud y prosiect i safle Gardd yr ?yl h.y. er mwyn gwario’r cyllid yn hytrach na’i ddychwelyd i Lywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb, dywedodd Aelod na fedrai dderbyn y ffaith fod y Cyngor wedi cyflwyno cais am gyllid ar gyfer parc splash heb wybod y byddai angen gwaith ychwanegol. Dywedodd fod hyn yn siom fawr i breswylwyr Tredegar a theimlai y gallai’r holl sefyllfa fod wedi cael ei thrin mewn ffordd fwy democrataidd.

Monitro’r Gyllideb Refeniw – Chwarter 2 2020/21 (Ymddiriedolaeth Hamdden)

 

Cyfeiriodd Aelod at y wariant ar lyfrau yn 2019/20, cyfanswm o £51,681, a dywedodd er bod hynny’n swm sylweddol o arian, roedd tua £82k wedi ei neilltuo ar gyfer y gronfa lyfrau. Gofynnodd lle gwariwyd gweddill yr arian neu os  ...  view the full Cofnodion text for item 5