Mater - cyfarfodydd

Blaenau Gwent Climate Mitigation Steering Group

Cyfarfod: 25/02/2021 - Pwllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (eitem 7)

7 Grŵp Llywio Lliniaru Hinsawdd Blaenau Gwent pdf icon PDF 528 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau yr adroddiad sy’n rhoi manylion Gr?p Llywio Lliniaru Hinsawdd Blaenau Gwent a sefydlwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth fod lliniaru hinsawdd yn cymryd camau a fyddai’n gostwng newid hinsawdd o waith dyn. Mae hyn yn cynnwys gweithredu i ostwng allyriadau nwyon t? gwydr ac i amsugno nwyon t? gwydr yn yr atmosffer. Rôl y Gr?p Llywio yw datblygu cynllun lliniaru i’r fwrdeistref cyfan a’r nodau a gytunwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf yw gosod cyllideb carbon seiliedig ar wyddoniaeth ar gyfer Blaenau Gwent, cytuno ar weledigaeth/cyfeiriad teithio, dynodi ac amlinellu materion allweddol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yng nghyswllt datgarboneiddio ym Mlaenau Gwent.

 

Fodd bynnag, cafodd y gwaith ei oedi oherwydd pandemig Covid-19 a dim ond teirgwaith y cyfarfu’r gr?p llywio hyd yma. Cytunwyd bellach bod y gr?p yn cytuno bob 2 fis o hyn ymlaen.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at ymgynghori ac esboniodd, er ei bod yn anodd cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd, y byddai’r math yma o ymarferion yn ailddechrau yn y dyfodol. Mae’n bwysig fod yr ymgynghoriad yn cynnwys y cyhoedd a chyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent a gynhelir ym mis Mawrth 2021.

 

Hwn oedd y Cynulliad Hinsawdd cyntaf o’i fath yng Nghymru a chaiff ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r Cynulliad Hinsawdd yn rhoi cyfle da i ddechrau’r broses o gasglu’r math hwn o farn gyhoeddus am weithredu hinsawdd ym Mlaenau Gwent.

 

Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau sylw yr Aelodau at yr opsiynau ar gyfer argymhellion fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Croesawodd Aelod yr adroddiad ac roedd yn falch i nodi fod y gr?p llywio yn awr wedi dechrau ar ei waith. Dywedodd bod llawer o bethau cadarnhaol y gellid eu gwneud i liniaru newid hinsawdd yn cynnwys plannu coed a gofynnodd os oes cynlluniau tebyg ar y gweill.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod llawer iawn o waith y gellid ei wneud yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a rhoddir adroddiad ar hyn i’r Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth i waith y gr?p fynd rhagddo.

 

Croesawodd Aelod arall sefydlu’r gr?p llywio a theimlai y gallai pawb gyfrannu at liniaru newid hinsawdd a bod Cymru yn arwain yn y gwaith hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar Opsiwn 1, sef bod Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn derbyn yr adroddiad trosolwg a’r atodiad cefnogi ar sefydlu’r Gr?p Llywio.