8 Diweddariad cynnydd Rhaglen Bwyd Cynaliadwy y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 418 KB
Ystyried adroddiad Prif Weithredwr Tai Calon.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Prif Weithredwr Tai Calon.
Rhoddwyd diweddariad ar y cynnydd ar Raglen Bwyd Cynaliadwy y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a dywedwyd mai Cartrefi Cymunedol Tai Calon yw prif noddwr y Bwrdd ar gyfer y rhaglen.
Bu oedi gyda’r rhaglen oherwydd Covid-19 gan fod ffocws gwaith partneriaid ar y pandemig ac er bod y gwaith hwn wedi parhau, mae partneriaid yn awr yn cydweithio i fynd â’r rhaglen ymlaen fel partneriaeth bwyd cynaliadwy.
Nodwyd fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ym mis Ionawr 2020 y byddai’r gr?p partneriaeth bwyd cynaliadwy yn goruchwylio’r gwariant cyfalaf o £23,147 a ddyfarnwyd i Gyngor Blaenau Gwent drwy Grant Tlodi Bwyd Cronfa Trosiant Undeb Ewropeaidd Llywodraeth Cymru. Byddai cyllid cyfalaf y Grant Tlodi Bwyd yn cefnogi sefydliadau i gael mynediad, storio a dosbarthu cyflenwadau ychwanegol o fwyd ansawdd da, yn cynnwys gwarged o fwyd da, yn neilltuol fwy o fwyd ffres, gan hybu gallu sefydliadau i ddarparu bwyd ansawdd da a maethlon i’w cwsmeriaid. Ychwanegwyd ymhellach bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dyfarnu cyllid i Tai Calon a phartneriaid ar gyfer penodi cydlynydd bwyd cynaliadwy rhan-amser i oruchwylio datblygiad y Rhaglen Bwyd Cynaliadwy yn 2021.
Ychwanegwyd y cafwyd dechrau cadarnhaol erbyn hyn er i waith gael ei oedi. Sefydlwyd partneriaeth bwyd da a datblygwyd cynllun gweithredu.
Nododd Aelod fod y Cyngor wedi derbyn Grant Tlodi Bwyd EUTF ar gyfer 2020/2021 sydd angen ei wario erbyn 31 Mawrth 2021 a gofynnwyd faint o gynnydd a wnaed ar y gwariant hwn.
Dywedwyd fod grant Cyfoeth Naturiol Cymru ar wahân i’r Grant Tlodi Bwyd y mae’r Cyngor yn ei dderbyn. Gobeithir y byddai’r cyllid hwn yn parhau i’r flwyddyn ariannol nesaf, fodd bynnag disgwylir cadarnhad. Cafodd mwyafrif y grant bwyd ei wario ac er mai’r Cyngor sy’n dal y grant, caiff ceisiadau cymunedol am y grant eu hystyried gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau fod y Cyngor wedi gweithio’n galed i sicrhau fod y gymuned yn gwybod am y grant sydd ar gael a’i bod yn ansicr os y gellir ymestyn unrhyw arian dros ben i’r flwyddyn nesaf. Gobeithir y byddai’r arian yn cael ei ymrwymo erbyn 31 Mawrth, fodd bynnag os nad felly, byddai’r Cyngor yn ceisio ei ymestyn dros y flwyddyn ariannol nesaf.
CYTUNODD y Pwyllgor ar Opsiwn 1; sef bod y Bwrdd Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn derbyn yr adroddiad a’r atodiadau fel y’u darparwyd cyn eu cyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.