Mater - cyfarfodydd

Aspire Shared Apprenticeship Programme

Cyfarfod: 24/02/2021 - Pwyllgor Gwaith (eitem 13)

13 Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel pdf icon PDF 570 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad i Aelodau ar berfformiad rhaglen Anelu’n Uchel ac ymgysylltu cysylltiedig â busnesau allanol ac amlinellodd yr wybodaeth perfformiad ar raglen prentisiaeth fewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol y bu’r prosiect yn gweithio’n dda gyda busnesau drwy gydol y pandemig a nododd y gyfradd gadw lwyddiannus ar gyfer y prentisiaid. Mae defnydd cadarnhaol o’r rhaglen yn dal i fod ymhlith adrannau’r Cyngor a gobeithid y gellid symud y cynllun ymlaen gyda chyllid mewn cysylltiad gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Diolchodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd i’r staff, busnesau a phrentisiaid eu hunain am eu hymrwymiad yn ystod y pandemig gan fod pob parti cysylltiedig wedi cydweithio. Croesawodd yr Aelod Gweithredol ehangu’r cynllun i Ferthyr Tudful a’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd gan y byddai hyn yn ehangu gwaith a chyfleoedd y rhaglen Anelu’n Uchel ymhellach ar gyfer y dyfodol.

 

Roedd y Pwyllgor Gweithredol yn falch i weld bod y rhaglen yn darparu’r cyfleoedd hyn ac yn hybu lefelau sgiliau ym Mlaenau Gwent.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.