10 Parodrwydd am y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol PDF 422 KB
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg mai diben yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Gweithredol ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys (Cymru) (2018) a’r cynnydd a wnaeth y Gyfarwyddiaeth Addysg i baratoi am hynny. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y cwmpas a’r cefndir a nododd y bu gan bob Cyngor gyfrifoldeb ers mis Medi 2021 am sicrhau fod gofynion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Cod oedd yn cyd-fynd a hi i gefnogi dysgwyr 0-25 oed.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gefnogaeth ranbarthol a lleol a dywedodd fod y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyflwyno swydd statudol newydd o fis Ionawr 2021 o Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Blynyddol Blynyddoedd Cynnar. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn falch i nodi y penodwyd i’r swydd ym mis Rhagfyr a’i fod yn rhan o’r gwasanaeth ADY yn Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm.
Ychwanegwyd fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio atal prosesau AAA statudol yn ystod pandemig COVID-19. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol na fu’n dasg rwydd rheoli hyn yn yr amgylchiadau presennol. Fodd bynnag, gyda’r dull gweithredu rhanbarthol a lleol yn ei le, mae’r tîm Cynhwysiant yn hyderus fod popeth sydd yn ei angen yn ei le ar gyfer mis Medi 2021.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg at y goblygiadau cyllideb a dywedodd nad yw’r effaith ar y gyllideb o fis Medi 2021 yn hollol hysbys hyd yma, fodd bynnag byddai gofyniad ar gyfer Swyddog Arweiniol ADY Blynyddoedd Cynnar fyddai’n arwain at bwysau cost pellach o £70,000.
Diolchodd Aelod Gweithredol Addysg i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am gyflwyniad cynhwysfawr o’r adroddiad sy’n cydnabod faint o waith a wnaed i sicrhau fod y Cyngor yn barod ar gyfer y Ddeddf ADY. Roedd yr Aelod Gweithredol yn falch y byddai’r Cyngor yn barod ar gyfer mis Medi 2021 i gefnogi ein disgyblion ADY.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod Blaenau Gwent yn cytuno y byddai’r ADY yn barod ar gyfer mis Medi 2021 pan ddaw’r Ddeddf ADY yn weithredol ac mae paratoadau addas yn mynd rhagddynt.