Mater - cyfarfodydd

ICT Investment Roadmap

Cyfarfod: 24/02/2021 - Pwyllgor Gwaith (eitem 9)

9 Cynllun Buddsoddiad TGCh pdf icon PDF 562 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol, Prif Swyddog Adnoddau a’r Prif Swyddog Gweithredu (SRS).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a’r Prif Swyddog Masnachol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol fod yr adroddiad yn amlinellu’r set lawn o gynigion ar opsiynau buddsoddi sydd eu hangen i gadw seilwaith TGCh cadarn a chydnerth. Nododd y Prif Swyddog Interim y tri chategori – stad cyfrifiaduron desg; stad rhwydwaith a theleffoneg a’r gofrestr contractau a rhoddodd drosolwg o’r gwaith i gael ei wneud fel yr amlinellir yn yr adroddiad

 

Ar y pwynt hwn, rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau drosolwg o’r costau cyfalaf a refeniw yn gysylltiedig gyda’r cynigion. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y cynigion buddsoddiad seilwaith angen buddsoddiad cyfalaf dechreuol ar draws y stadau cyfrifiaduron desg a rhwydwaith o £464,000 yn y ddwy flynedd ddiwethaf gyda buddsoddiad blynyddol o £166,000 wedi hynny.

 

Cafodd y rhaglen adnewyddu cyfrifiaduron desg diweddar ar gyfer y ddogn gyntaf ei chyllido gan gronfeydd wrth gefn, fodd bynnag nid yw hyn yn gynaliadwy bellach ac felly cynigiwyd cytuno dyraniad blynyddol o £166,000 fel rhan o raglen gyfalaf y Cyngor o 2021-22 ymlaen gyda’r balans ar gyfer blynyddoedd 1 a 2 (£132,000) yn cael ei ariannu o’r gronfa wrth gefn TGCh.

 

Yn nhermau costau refeniw ar gyfer gweithredu teleffonau Teams a’r Ganolfan Gyswllt, dywedwyd y byddai’r rhain yn £77,000 y flwyddyn, fodd bynnag byddai hyn yn cael ei gyllido o’r gyllideb refeniw a sefydlwyd eisoes ar gyfer y gwasanaethau presennol sydd yn eu lle gyda’r costau hyn yn lle’r costau a geir ar y gwasanaethau cyfredol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol nad oedd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol wedi codi unrhyw faterion a’i fod wedi cymeradwyo Opsiwn 1 i’w argymell i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Nododd yr Arweinydd yr adroddiad a dywedodd fod angen hyn gan fod yr Awdurdod yn chwarae dal lan hirdymor ganfod y seilwaith wedi bod ar ôl llawer o awdurdodau lleol. Amlygwyd hyn dros y 12 mis diwethaf gyda mwy o ddibyniaeth ar weithio rhithiol. Byddai’r gwaith hyn o fudd pellach i’r gwahanol ddulliau gweithredu y byddai’r Cyngor yn eu cymryd ac yn galluogi gweithrediad llyfn unrhyw newidiadau yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd gyda’r sylwadau a godwyd a dywedodd fod TGCh angen yr adolygiad hwn gan ei fod yn faes sy’n newid drwy’r amser. Teimlai’r Dirprwy Arweinydd y byddai arian ar gael yn y dyfodol i gefnogi’r maes gan y byddai’n agor mwy o bosibiliadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Gweithredol yn ystyried y cynigion ac yn argymell y buddsoddiad yn y seilwaith TGCh i’r Cyngor ei gymeradwyo.