7 Adroddiad Cynnydd; Grŵp Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi PDF 598 KB
Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diwedddariad ar waith Gr?p Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Cadarnhaodd y cynhaliwyd ail gyfarfod o’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar 20 Ionawr 2021 pan gafodd y Gr?p gyflwyniad ar Gr?p Ymgynghori Tredegar sy’n cynnwys manylion sut y sefydlwyd y Gr?p Ymgynghori, sut y gweithredai a’i sut yr oedd wedi cefnogi Swyddogion Aelodau i gydweithio ar adfywio Tredegar.
Teimlai Aelodau y byddai’n fanteisiol ymchwilio posibilrwydd dyblygu’r dull gweithredu yn Nhredegar ar draws pob tref arall o fewn y Fwrdeistref a chytunodd Swyddogion i gefnogi Aelodau i ystyried yr opsiynau hyn a sefydlu’r grwpiau.
Diolchodd Aelod i’r Swyddog am ei gwaith ar y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a dywedodd y teimlai fod y Gr?p yn sicrhau cynnydd. Yng nghyswllt yr argymhellion i ddod â diweddariad yn ôl bob chwarter, awgrymodd y dylid dod â’r rhain i’r Pwyllgor Craffu lle mae angen.
Dilynodd trafodaeth fer am amseriad y diweddariadau a roddir i’r Pwyllgor Craffu.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi cynnydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a bod diweddariadau pellach yn cael eu derbyn fel sy’n briodol.