8 Polisi Atal Gwyngalchu Arian PDF 555 KB
Ystyried adroddiad yr Uwch Archwilydd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Arolygydd.
Cyflwynodd yr Uwch Archwilydd yr adroddiad sy’n rhoi’r Polisi Atal Gwyngalchu Arian, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r Rheoliadau Gwyngalchu Arian a Chyllido Terfysg (Diwygiad) 2019. Atodir y Polisi yn Atodiad 1.
Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwynt ynddo.
Dywedodd Aelod y byddai’n fanteisiol i ddiwygiadau gael eu hamlygu o fewn yr adroddiad, a hefyd gofynnodd os oedd y polisi yn debyg i un awdurdodau lleol eraill.
Mewn ymateb dywedodd y Swyddog fod y diwygiadau i’r polisi yn bennaf yn y fformat i adlewyrchu polisïau awdurdodau lleol eraill; fodd bynnag caiff unrhyw ddiwygiadau pellach eu hegluro yn nes ymlaen.
Cyfeiriodd Aelod at y weithdrefn adrodd drwy dynnu sylw at adran 6 y ddogfen polisi, ac esboniodd y Swyddog y dylid rhoi adroddiad am unrhyw amheuon o wyngalchu arian o fewn 24 awr, neu cyn gynted ag sydd modd.
PENDERFYNWYD derbyn yr arian a chymeradwyo a mabwysiadu’r polisi.