Mater - cyfarfodydd

Welsh-medium Education Consultation Proposal / Cynnig Ymgynghori ar Addysg Cyfrwng Cymraeg

Cyfarfod: 15/12/2020 - Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu (eitem 5)

5 Cynnig Ymgynghori ar Addysg Cyfrwng Cymraeg pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd a’r Cynghorwyr J.C. Morgan a T. Smith fuddiant yn yr eitem ddilynol ac ar ôl cael cyngor gan y Swyddog Monitro, fe wnaethant aros yn y cyfarfod. Felly cymerodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd J. Holt, y gadair.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a ofynnwyd i ofyn am farn y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yng nghyswllt y cynnig i ymgynghori ar greu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gyda 210 lle yn ardal Tredegar/Cwm Sirhywi.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Byddai’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yn ymgyngoreion statudol ar y cynnig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod parthed y £6.2m a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y gwnaed y dyraniad ar sail ‘mewn egwyddor’ ac y cafodd ei glustnodi ar gyfer y cynllun hwn. Bu dialog ddiweddar gyda Llywodraeth Cymru yn dweud fod y dyraniad yn dal i fod ar gael i’w ddefnyddio o fewn Blaenau Gwent, yn amodol ar yr ymgynghoriad. Roedd gan yr Aelod bryderon, pe byddai’r ymgynghoriad yn mynd yn erbyn y cynnig, y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn am y £6.2m yn ôl. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y tîm Trawsnewid Addysg wedi gwneud llawer o waith i gael mynediad i’r cyllid cyfalaf, a’i bod yn amlwg yn flaenoriaeth o fewn y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i gyflawni goblygiadau statudol. Mae bellach angen gofyn yn ffurfiol am sylwadau rhanddeiliaid fel rhan o’r broes ymgynghori cyn symud ymlaen yn ffurfiol â’r cynnig.

 

Holodd Aelod os byddai’r ysgol yn cael ei adeiladu mewn cyfnodau gan mai dim ond 48 lle a ddefnyddid i ddechrau gan arwain at 210 lle dros y chwe mlynedd nesaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr, yn amodol ar gymeradwyo’r cynnig, bod Gwasanaethau Technegol wedi dweud y byddai’n well o safbwynt cost cyfalaf i gael un contract ar gyfer adeiladu’r ysgol ac wedyn agweddau agored o’r ysgol wrth i’r capasiti gynyddu.

 

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg bod cyfleoedd ar gyfer cyflwyno camau yr edrychir arnynt, ac yn amodol ar ganlyniad y prosesau statudol, ystyrid dadansoddiad manwl o amgylch y costau a’r buddion yn gysylltiedig gyda chyflwyno mewn cyfnodau a datblygu’r cynnig.

 

Yng nghyswllt y gwaith ymchwilio safle a wnaed eisoes, holodd Aelod am y gyllideb ar gyfer y gweithiau hynny. Esboniodd y Cyfarwyddwr y cafodd y costau hynny eu codi yn erbyn y rhaglen Cyfalaf Addysg a’u bod yn gostau isel iawn h.y. ymchwiliadau mwyngloddio ac astudiaethau bwrdd gwaith y byddid yn eu hail-godi i’r gost gyfalaf yn gysylltiedig gyda’r cynllun.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn cefnogi’r ymgynghoriad o hyn ymlaen a dim ond ar ôl rhoi ffeithiau gerbron Aelodau y gellid gwneud penderfyniad am y cynnig.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn cefnogi’r ymgynghoriad a gobeithiai y’i cynhelid ar draws Blaenau Gwent gyda phob ysgol a staff a rhieni’n cymryd rhan. Dywedodd mai un peth yw adnoddau cyfalaf i adeiladu’r sector, ond roedd ganddo bryderon am gostau refeniw a’r effaith ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 5