Mater - cyfarfodydd

Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol

Cyfarfod: 05/11/2020 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol (eitem 7)

7 Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol pdf icon PDF 449 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i Aelodau ar waith a phenderfyniadau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dros y 9 mis diwethaf dan gyfarwyddyd statudol Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif feysydd a aeth ag amser y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol:

           Achosion coronafeirws ar draws asiantaethau partner a’r effaith ar wasanaethau.

           Parhad y Cynnig Trawsnewidiol ar ôl 2021.

           Ailddyrannu tanwariant ar gyfer 2019/20.

           Parhad cyllid refeniw a chyfalaf Gofal Integredig.

           Cynllun integredig ar gyfer Gaeaf 2020/21.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr effaith ar wasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y bu’n anodd darparu’r gwasanaeth yn yr un ffordd â chyn y pandemig gan y bu llai o gyswllt wyneb i wyneb. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf bu cynnydd mewn problemau iechyd meddwl ar gyfer oedolion a phlant a theimlai y byddai peth pwysau ychwanegol ar y system fel canlyniad i hyn. Mae’n bwysig parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn y dyfodol a pharhau i gysylltu wyneb yn wyneb a drwy ddulliau cyfryngau cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cytundeb llafar ar gyfer cyllid Trawsnewidiol hyd 2022 a gofynnodd pa effaith y byddai’r etholiadau i Senedd Cymru y flwyddyn nesaf yn ei gael ar y cyllid hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, oherwydd yr etholiadau i Senedd Cymru fis Mai nesaf, y bu hwn yn gyfnod o drawsnewid i alluogi unrhyw weinyddiaeth i fedru gwneud penderfyniadau p’un ai i barhau â chyllid yn y dyfodol. Bu’r Gyfarwyddiaeth yn gwerthuso rhaglenni i ddangos manteision clir pob un a’r hyn y gallent ei gyflawni ar gyfer teuluoedd a chymunedau yn ardal Gwent. Teimlai’r Cyfarwyddwr yn hyderus y byddai cyllid tebyg yn parhau ar gyfer y flwyddyn drawsnewidiol ac y byddai hyn yn diogelu rhai gwasanaethau.

 

Ar bwynt eglurdeb dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cynnig yng Ngwent yn ymwneud â phedair ardal yn deillio o’r ardaloedd blaenoriaeth o fewn y Cynllun Ardal. Mae’r pumed pwynt bwled ar baragraff 2.9 yn cyfeirio at ddatblygu cynllunio gweithlu a datblygu sefydliadol i fod yn sylfaen i weithgaredd trawsnewid ac i gefnogi’r pedair thema.

 

Holodd y Cadeirydd am y berthynas rhwng yr Awdurdod a gosodiadau preswyl y sector preifat ac os oedd cyfnewid gwybodaeth wedi gwella yng nghyswllt achosion posibl o Covid-19 yn y cartrefi gofal hynny. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod perthynas ragorol wedi datblygu gyda chartrefi gofal y sector preifat gydag adborth cyson gan gomisiynwyr. Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd hefyd mewn cysylltiad gyda chartrefi gofal y sector preifat i roi cyngor ac arweiniad. Cesglir gwybodaeth am staff a phreswylwyr o fewn cartrefi gofal ac os oedd unrhyw achosion positif, cynhelir trefn brofi estynedig yn y cartrefi gofal hynny. Yng nghyswllt cyfleusterau byw â chymorth a gofal ychwanegol, mae hefyd rannu gwybodaeth da ond llai felly gyda thai gwarchod gan nad oeddent yn derbyn cymaint o gefnogaeth. Pe byddai adroddiad am achos mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 7