Mater - cyfarfodydd

Update on Strategy to Safely Reduce the Numbers of Children Looked After

Cyfarfod: 05/11/2020 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol (eitem 6)

6 Diweddariad ar y Strategaeth i Sicrhau Gostyngiad Diogel yn Nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal pdf icon PDF 855 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd a wnaed yng nghyswllt gweithredu Strategaeth Gostyngiad Diogel yn Nifer y Plant sy’n Derbyn yn Gofal 2017-2020.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a dywedodd fod gan y strategaeth honno dair amcan:-

 

1.         Cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd.

2.         Rheoli risg mewn modd cyfrinachol a rhoi cymorth ar ymyl gofal

3.         Darparu lleoliadau ansawdd uchel a fforddiadwy.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ofalwyr maeth, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y bu’n gyfnod heriol i’r ymgyrch recriwtio yn ystod yr haf. Mae Penaethiaid Gwasanaeth ledled Cymru wedi datblygu dull cenedlaethol i awdurdodau lleol recriwtio gofalwyr maeth. Datblygwyd y brand ‘Maethu Cymru’ ac mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £300,000 i gefnogi’r 22 awdurdod lleol, a chaiff lansiad swyddogol ei gynnal  y flwyddyn nesaf. Mae nifer y gofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent wedi parhau’n gyson, fodd bynnag, roedd ymholiadau wedi cynyddu yn Ionawr/Chwefror 2020 ond wedi arafu ym mis Mawrth oherwydd y pandemig. Yr her i’r gwasanaeth oedd trosglwyddo ymholiadau yn ofalwyr maeth cymeradwy gan nad oedd pob cais yn llwyddiannus. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda gofalwyr maeth presennol am sut y cawsant eu cefnogi yn ystod yr haf a bu’r adborth yn gadarnhaol iawn.

 

Holodd Aelod am y gorwariant o £400,000 ar gostau cyfreithiol, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod llawer o wahanol elfennau i bob achos a gall fod angen nifer o asesiadau annibynnol drwy’r llys ar gyfer rhai tebyg i asesu rhieni neu gr?p siblingiaid. Rhan arall o’r gwariant hwnnw oedd y costau blwyddyn lawn yn gysylltiedig gyda gwasanaethau cyfreithiol allanol gan fod Cyfreithiwr Gofal Cymdeithasol y Cyngor wedi gadael yr Awdurdod. Aeth yr Adran Gyfreithiol drwy’r broses gaffael i holi os oedd gan awdurdodau cyfagos ddiddordeb mewn cymryd y gwaith cyfreithiol hwn, yr adeg honno ni fu ymateb i’r cynnig, fodd bynnag ers hynny mae awdurdod cyfagos wedi mynegi diddordeb ac mae’r Gyfarwyddiaeth yn awr yn ymchwilio’r opsiwn hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr arian Cronfa Gofal Integredig a sut mae’r Gyfarwyddiaeth yn cyflawni’r tair amcan, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cadarnhad llafar y byddai’r Gronfa Gofal Integredig yn parhau hyd at Ebrill/Mawrth 2022. Yng nghyswllt cyrraedd y tair amcan, dangoswyd hyn gan nifer is o blant yn dod i ofal ac mae’n dangos gwaith pwysig y tîm Cefnogi Newid wrth gefnogi teuluoedd a sut i drin risg yn hyderus. Gan fod mwy o waith i gael ei wneud, mae’r Gyfarwyddiaeth yn y broses o ddatblygu strategaeth bum mlynedd.

 

Yng nghyswllt ffioedd cyfreithiol, teimlai Aelod y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ffioedd cyfreithiol gyda golwg ar roi cefnogaeth i awdurdodau lleol. Holodd hefyd os y byddai cydweithredu gydag awdurdodau eraill i leddfu rhan o’r costau. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod yn rhaid i bob awdurdod reoli eu cyllidebau eu hunain yng nghyswllt pob agwedd, yn cynnwys costau cyfreithiol. Yng nghyswllt cydweithio gydag awdurdod cyfagos, mae gwaith i gasglu gwybodaeth ar  ...  view the full Cofnodion text for item 6