Mater - cyfarfodydd

Education Directorate-Response to COVID-19

Cyfarfod: 03/11/2020 - Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu (eitem 10)

10 Cyfarwyddiaeth Addysg – Ymateb i COVID-19 pdf icon PDF 491 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i sefyllfa COVID-19, yn arbennig yn cefnogi ysgolion yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Cyflwynwyd diweddariad llafar i Bwyllgor mis Medi; fodd bynnag mae’r adroddiad hwn yn rhoi mwy o gyd-destun cefndirol a golwg gyfredol ar yr ymateb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan  Aelod am brofi staff ysgol bod tri dull o brofi:-

1.         Porth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan am fynediad i brofion.

2.         Protocol profi staff o fewn yr awdurdod lle gall ysgolion ac aelodau unigol o staff hunangyfeirio am brofion yn ddyddiol, gyda blaenoriaeth mynediad i ganolfannau profi yn cynnwys Rodney Parade yng Nghasnewydd.

3.         Opsiwn Tîm Rheoli Digwyddiad gyda chynrychiolaeth o Iechyd Cyhoeddus Cymru i edrych ar glystyrau sylweddol neu achosion posibl fel canlyniad i drosglwyddo seiliedig mewn ysgolion.

 

Mae prosesau effeithlon yn eu lle i sicrhau y gall staff gael mynediad prydlon i brofion. Mae’r protocol profion staff a gyflwynwyd drwy Argyfyngau Sifil Posibl yn sicrhau fod mynediad i brofion ar yr un dydd ag atgyfeirio. Bu’r broses yn gyflym ac yn effeithlon iawn hyd yma. Sicrhaodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg yr Aelodau fod pob ysgol wedi cael asesiadau risg diogel o ran Covid, a gaiff eu hadolygu’n rheolaidd pan ddynodir achosion positif o fewn ysgolion.

 

Holodd Aelod am y cyfraddau trosglwyddo uchel o fewn y gymuned a pha fesurau sydd ar waith i atal trosglwyddo ar adegau dechrau a gorffen ysgolion. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod gan bob ysgol fesurau cadarn yn eu lle yn cynnwys protocol ymwelwyr. Mae ymgysylltu gyda rhieni yn mynd rhagddo un ai’n rhithiol neu dros y ffôn a chyfyngir mynediad i ysgolion os nad yw’n hollol hanfodol. Rhoddwyd llawlyfrau a chanllawiau i rieni a threfnu dechrau am yn ail a systemau un ffordd mewn rhai safleoedd. Mae mesurau effeithlon yn eu lle i gyfyngu ymgysylltu â rhieni ar y safle ac i sicrhau fod rhieni yn symud i ffwrdd o’r safle myn brydlon wrth ddod â disgyblion i’r ysgol a’u casglu oddi yno.  Mae tîm Cyfathrebu y Cyngor yn cefnogi ysgolion gyda negeseuon allweddol rheolaidd i rieni a chodi ymwybyddiaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod parthed diweddariad ar PPE, sicrhaodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg yr Aelodau nad oedd unrhyw broblemau gyda phrinder PPE mewn unrhyw osodiad. Bu prinder cenedlaethol mewn cynhyrchu a dosbarthu menig yng nghamau cynnar y pandemig ond roedd y Gyfarwyddiaeth wedi cynllunio a rheoli dyraniad a dosbarthiad PPE yn effeithlon ar gyfer pob safle ysgol ac ni effeithiwyd yn negyddol ar unrhyw ysgol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg y derbyniwyd peth cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gorchuddion wyneb ar gyfer disgyblion, fodd bynnag nid oedd y cyllid yn ddigonol i dalu am gost dau orchudd wyneb i bob disgybl ac mae’r Gyfarwyddiaeth wedi ychwanegu cyllid.

 

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod dosbarthiad gorchuddion wyneb wedi ei  ...  view the full Cofnodion text for item 10