Mater - cyfarfodydd

Summary of Inspection Outcomes for Educational Establishments – Autumn Term 2019 and Spring Term 2020

Cyfarfod: 03/11/2020 - Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu (eitem 8)

8 Crynodeb o Ddeilliannau Arolygon Sefydliadau Addysgol – Tymor yr Hydref 2019 a Thymor y Gwanwyn 2020 pdf icon PDF 674 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i roi gwybodaeth bwysig i Aelodau ar fonitro perfformiad parthed yr arolygiadau a gynhaliwyd gan Estyn o sefydliadau addysgol.

 

Siaradodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r tair  ysgol a gafodd arolwg gan Estyn:

           Ysgol Sylfaen Brynmawr

           Ysgol Gynradd Cwm

           Ysgol Gymraeg Bro Helyg

 

Dywedodd Aelod i’r ddwy ysgol gynradd gael adroddiadau da ond cododd bryderon difrifol parthed Ysgol Sylfaen Brynmawr yng nghyswllt diffygion pwysig yn arbennig mewn llythrennedd a rhifedd ac rheoli arweinyddiaeth. Dywedodd Prif Gynghorydd Her EAS mai’r pethau allweddol sylweddol yn yr adroddiad oedd arweinyddiaeth ac addysgu a dysgu. Cafodd arweinyddiaeth ei gryfhau’n sylweddol yn yr ysgol, mae’r Pennaeth wedi penodi Dirprwy Bennaeth a dau Bennaeth Cynorthwyol ychwanegol. Bu diffyg mewn dysgu proffesiynol ond hysbysodd Aelodau fod yr ysgol wedi parhau i gysylltu gyda EAS drwy ddysgu proffesiynol drwy gydol y pandemig. Mae’r ysgol wedi ymgysylltu gyda Rhaglen Genedlaethol Datblygu Arweinyddiaeth Ganol ar gyfer yr holl arweinwyr canol a defnyddir ei arweinwyr uwch fel rhan o’r tîm hwyluso ac mae’r gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod gan Ysgol Sylfaen Brynmawr gynllun dysgu cadarn iawn ar gyfer dysgu o bell a dysgu cyfunol ac y caiff ei rannu’n rhanbarthol. Mae’n bwysig i Aelodau wybod fod cyfarfodydd wedi parhau gyda’r ysgolion sy’n achosi pryder i sicrhau gwerthusiad effeithlon o’r gwaith yn y fan a’r lle ac i ddynodi anghenion dysgu proffesiynol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y cynhaliwyd sesiynau SCC gydag Ysgol Sylfaen Brynmawr ac ysgolion eraill yn achosi consyrn. Cafodd arweinyddiaeth yn yr ysgol ei gryfhau ond teimlai y byddai’n cymryd amser i welliannau gael effaith yn yr ysgol a byddai’n diweddaru Aelodau ar y cynnydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ddiffyg dqarpariaeth llyfrgell yn yr ysgol, dywedodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg bod ysgolion nad oedd ganddynt lyfrgell ‘arferol’ gweithredol ond nad oedd dysgwyr dan anfantais gan fod ganddynt fynediad i’r ddarpariaeth hon naill ai drwy ofodau tawel neu drwy ddulliau digidol.

 

Gadawodd y Cynghorydd Cook y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at raglen garlam darllen a theimlai ei bod yn fanteisiol i lesiant dysgwyr gael ystafell ddiogel dawel i ddarllen a dal llyfr go iawn.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg bod cyfleoedd eraill o fewn ysgolion i sicrhau fod gan ddysgwyr amgylcheddau mewn ysgol oedd yn addas ar gyfer cyfnodau grwpiau bach, ac y byddir yn symud ymlaen â hyn yn rhaglen Ysgolion Ysgol y 21ain Ganrif. Byddai Ysgol Sylfaen Brynmawr yn brosiect blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad fel rhan o raglen Band B.

 

Cefnogodd y Prif Gynghorydd Her sylwadau’r Cyfarwyddwr a dywedodd er nad oedd gan Ysgol Sylfaen Brynmawr lyfrgell penodol, ei bod yn defnyddio’r adnoddau hynny yn eang ar draws yr ysgol ac mewn ystafelloedd dosbarth. Sicrhaodd Aelodau fod yr ysgol fel rhan o’u cynllunio datblygu yn dod â rhaglen garlam darllen i’r ysgolion fel rhan o’r gwaith ymyriad o  ...  view the full Cofnodion text for item 8