Mater - cyfarfodydd

Cynigion Depot Newydd y Cyngor

Cyfarfod: 19/10/2020 - Pwyllgor Gwaith (eitem 5)

Cynigion Depot Newydd y Cyngor

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y sylwadau a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yng nghyswllt y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a’r Rheolwr Tîm, Golwg Strydoedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi cynnydd ar ddatblygu Depot newydd i’r Cyngor. Mae’n amlinellu safleoedd ymgeisiol addas i gael eu hymchwilio y byddid yn mynd â nhw ymlaen fel rhan o’r cam nesaf i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod gan y depot presennol arwynebedd safle amcanol o tua 15,500 metr sgwâr a lletya nifer o wasanaethau.

 

Oherwydd y gost i adnewyddu safle’r depot presennol teimlid y dylid hefyd ymchwilio safleoedd eraill. Edrychodd y Cyngor ar y gwaith a wnaed mewn awdurdodau eraill lle codwyd cyfleusterau tebyg. Mae’r Cyngor yn ceisio’n barhaus i ateb heriau’r targedau Dim Carbon a osodwyd ar gyfer y sector cyhoeddus sy’n cynnwys adeiladau’r Cyngor a sut mae’r Cyngor yn gweithredu eu gwasanaethau.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad ac amlinellodd y cyfleoedd cydweithio posibl, yr adolygiad a gynhaliwyd i benderfynu ar ofynion y dyfodol, maint fflyd a’r camau dylunio dechreuol. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol er mwyn cyrraedd lleoliad a ffafrir o’r safleoedd a ymchwiliwyd ein bod yn mesur ar werthusiad opsiynau gyda meini prawf yn cael eu mesur ar bob safle o ran maint, mynediad, lleoliad, cyfleoedd cydweithio a staff ar y safle.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at yr opsiynau ar gyfer argymhellion a nodwyd Opsiwn 2 fel yr opsiwn a ffafrir.

 

Rhoddwyd trosolwg o drafodaethau yn y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a nodwyd y gwnaed cais i edrych ar leoliad ar safle’r Gweithfeydd. Nodwyd nad oedd hyn yn ddiwygiad i’r adroddiad, fodd bynnag cytunodd y Pwyllgor Gweithredol y dylai’r Cyfarwyddydd Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol gynnal yr ymchwiliadau angenrheidiol fel mater o frys ar y lleoliad y soniwyd amdano a rhoi adroddiad yn ôl ar y canfyddiadau mewn modd priodol.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yr adroddiad a’r gefnogaeth a ddarperir gan WRAP. Byddai’r prosiect yn cysylltu gyda phrosiectau ynni gwyrdd a carbon niwtral a theimlai fod hwn yn gyfle cyffrous i fynd ymlaen ag ef.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 2 gyda chais i edrych ar y safle a ddygwyd ymlaen gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad.