17 Diogelu’r Cyhoedd – Cynllun Awdurdod Sylfaenol PDF 656 KB
Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn hysbysu Aelodau am y Ddeddf Gorfodaeth a Sancsiynau Rheoleiddio sy’n effeithio ar weinyddiaeth swyddogion gorfodaeth y Cyngor yng nghyswllt Iechyd yr Amgylchedd, Trwyddedu a Safonau Masnachu. Mae’r adroddiad yn cynnig mabwysiadu polisi lle gellid rhoi cyfle i fusnesau addas sy’n masnachu ar draws ffiniau awdurdodau lleol, busnesau newydd neu fusnes sengl i ymrwymo i berthynas gyfreithiol awdurdod sylfaenol gyda Chyngor Blaenau Gwent yng nghyswllt swyddogaethau rheoleiddiol. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gofynnir i’r Pwyllgor Gweithredol gymeradwyo mabwysiadu partneriaethau Awdurdod Sylfaenol mewn egwyddor a pholisi lleol cysylltiedig ar gyfer Awdurdod Sylfaenol.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol drosolwg ac esboniad o Awdurdod Sylfaenol fel y nodir yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1 sef:
· mabwysiadu’r polisi drafft a gynhwysir yn Atodiad 1 a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i ddechrau ar berthynas Awdurdod Sylfaenol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar gyfer diben Deddf Gorfodaeth a Sancsiynau Rheoleiddiol 2008.
· cynnig y cynllun Awdurdod Sylfaenol i fusnesau priodol ar sail adferiad cost ar gyfer yr awdurdod lleol fel y manylir yn y Ddeddf Gorfodaeth a Sancsiynau Rheoleiddiol.
· byddai mabwysiadu’r polisi yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol, coleddu egwyddorion rheoleiddio gwell a chefnogi busnesau lleol. Byddai mabwysiadu’r polisi yn cyfrannu at nodau’r Cyngor i ddatblygu economi llewyrchus ym Mlaenau Gwent lle mae busnesau o bob maint yn cael mynediad i gefnogaeth i ddiwallu eu gofynion rheoleiddiol a hybu twf busnes a’r buddion cysylltiedig i’n preswylwyr a chymunedau.
· nid yw mabwysiadu Opsiwn 1 yn gorfodi’r gwasanaeth i ymrwymo i unrhyw bartneriaethau Awdurdod Sylfaenol ond yn hytrach yn caniatáu cytundeb o’r fath os bernir bod hynny’n addas yn unol â’r drafft bolisi a ddangosir yn Atodiad 1.