12 Tai Strategol: Cyllid Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd PDF 520 KB
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn amlinellu cyfle Cronfa Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol wrth ymateb i gyfle’r Gronfa Bwlch Hyfywedd, yn cynnwys dynodi safleoedd datblygu posibl ac yn ceisio cymeradwyaeth i ddatblygu achos busnes a gwaith cysylltiedig i benderfynu ar y bwlch hyfywedd a chefnogi gais i’r Fargen Ddinesig.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach am yr adroddiad ac amlinellu cyfle’r Cylild Bwlch Hyfywedd, cyllid refeniw ac amserlen y gronfa. O ran sefyllfa a safleoedd Blaenau Gwent dywedwyd y cafodd safleoedd posibl eu dynodi yn y sector preifat ac y byddai’r rhain yn cael eu hystyried gyda’r perchnogion i benderfynu ar ddiddordeb yn y cynllun.
Croesawodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad ac roedd yn falch i weld y buddsoddiad gan fod tai yn sbardun allweddol yn yr economi.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi Opsiwn 1: cyfle Cronfa Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; yn cynnwys y sefyllfa bresennol o fewn Blaenau Gwent yng nghyswllt dynodi safleoedd datblygu posibl. Hefyd cymeradwywyd parhau i ymchwilio’r safleoedd a ddynodwyd er mwyn penderfynu ar y bwlch hyfywedd; a lle’n briodol, datblygu achos(ion) busnes a gwaith cysylltiedig i gefnogi cyflwyno cais i Gronfa Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.