Mater - cyfarfodydd

Cynllun Peilot Trafnidiaeth Ymatebol Integredig

Cyfarfod: 14/10/2020 - Pwyllgor Gwaith (eitem 11)

11 Cynllun Peilot Trafnidiaeth Ymatebol Integredig pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol mai diben yr adroddiad oedd cael sylwadau ar y prosiect peilot Trafnidiaeth Ymatebol Integredig ym Mlaenau Gwent. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod Llywodraeth Cymru wedi dynodi Blaenau Gwent fel ardal a fyddai’n cael budd o gynllun peilot a dywedodd y caiff y prosiect hwn ei weithredu ar draws tair ardal awdurdod lleol yng Nghymru – Sir Benfro, Conwy a Blaenau Gwent. Byddai’r awdurdodau hyn yn manteisio o beilota math newydd o drafnidiaeth gyhoeddus  fyddai’n rhedeg gwasanaethau tu allan i’r amserau rhedeg arferol. Byddai 2 fws yn cael eu caffael fel rhan o’r prosiect a byddai’n gweithredu i ddechrau yng nghymoedd Ebwy Fach ac Ebwy Fawr. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y bu bob amser bryderon am drafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent ac mae’r cynllun peilot hwn yn rhoi cyfle i brofi’r galw am lwybrau a gwasanaethau neilltuol. Gobeithid y byddai hyn wedyn yn anelu i roi mwy o hyblygrwydd ar gyfer defnyddwyr.

 

Byddai’r prosiect hefyd yn cysylltu gyda’r strategaeth trafnidiaeth ar gyfer Blaenau Gwent ac yn rhoi’r data perthnasol i wella dealltwriaeth y Cyngor o batrymau teithio a lle’n briodol yn ein galluogi i wella ac addasu gwasanaethau trafnidiaeth i wasanaethu anghenion cyfredol a dyfodol preswylwyr.

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad gan ei fod yn dynodi’r ymddiriedaeth a roddodd Llywodraeth Cymru yn y Cyngor i gynnal cynllun peilot. Teimlai’r Aelod Gweithredol fod Blaenau Gwent yn ardal ardderchog i gynnal y peilot gan fod daearyddiaeth yr ardal yn amrywiol.

 

Teimlai’r Aelod Gweithredol hefyd y dylai trafnidiaeth gyhoeddus gael ei reoli gan y sector cyhoeddus gan ein bod mewn sefyllfa dda i ddeall anghenion ein cymunedau. Byddai’r cynllun peilot yn rhoi cyfle i ymateb i’r galw.

 

Teimlai’r Arweinydd ei bod yn bwysig bod y cynllun peilot yn cael cyhoeddusrwydd da i bawb, p’un ai oes ganddynt fynediad i’r cyfryngau cymdeithasol ai peidio. I fod yn llwyddiannus, mae’n hanfodol bod ein holl gymunedau yn cymryd rhan. Cadarnhaodd yr Aelod Gweithredol fod trafodaethau dechreuol ar sut y byddai’r cynllun peilot yn cael ei farchnata a chytunwyd ei bod yn bwysig y caiff anghenion pob preswylydd eu diwallu.

 

Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymunedol fod hefyd angen siarad gyda darparwyr eraill yn nhermau cysylltiadau i’r Ysbyty Grange newydd er mwyn i breswylwyr gael mynediad i’r ysbyty hwn. Mewn ymateb, cadarnhawyd y cynhelir dialog gyda phartneriaid yn y sector iechyd a rhoddir ystyriaeth i ganol trefi, mannau cyflogaeth a materion mynediad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1, sef cymeradwyo symud ymlaen gyda’r prosiect peilot a chyflwyno Trafnidiaeth Ymatebol Integredig i Flaenau Gwent.