8 Polisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol PDF 493 KB
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim a’r Rheolwr Diogelu mewn Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar Bolisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol yn dilyn ei adolygiad blynyddol.
Siaradodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y diweddariadau dilynol i’r polisi:-
· Cyfeirio at Weithdrefnau Diogelu Cymru 2019, sy’n disodli cyfeiriad blaenorol at Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru 2008;
· Cynnwys polisi diogelu Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn atodiad 3 y polisi;
· Cynnwys y protocol casglu data diogelu; a
· Chynnwys atodiad COVID-19 i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol a gadarnhau’r gweithdrefnau ar gyfer rhoi adroddiad am bryderon. Gellir diweddaru’r atodiad hwn yn rheolaidd wrth i’r sefyllfa argyfwng ddatblygu a newid.
Cododd Aelod bryderon am y pwysau ar fywyd cartref megis problemau ariannol, colledion swydd ac yn y blaen a’r newid mewn deinameg mewn cartrefi gyda llawer o rieni yn gweithio gartref. Holodd sut y gellid casglu adborth o’r sefyllfaoedd hyn gan y gallai hyn arwain at gynnydd yn y dyfodol yn nifer y plant sy’n derbyn gofal. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant sicrwydd yr ymatebir yn briodol i’r atgyfeiriadau hynny gyda phryderon am ddiogelu, h.y. amddiffyn plant, cam-drin neu esgeulustod, beth bynnag am bandemig COVID-19, ac ar gyfer y plant hynny oedd adref oherwydd diffyg darpariaeth ysgol, nid oedd dim wedi rhybuddio’r awdurdod leol am unrhyw bryderon diogelu.
Cyfeiriodd yr Aelod at oblygiadau ehangach diogelu a sut y byddai straen y gweithle yn mynd i’r cartref teuluol yn effeithio ar fywydau plant yn gyffredinol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant y gwnaed cyllid ychwanegol drwy’r Gronfa Datblygu Plant ar gael ac mae wedi ei dargedu’n benodol at y plant hynny sydd wedi dioddef fel canlyniad i COVID-19, nail ai’n addysgol, yn emosiynol neu drwy lesiant holistig. Byddai’r Gyfarwyddiaeth yn edrych ar y carfannau hyn o blant mewn cysylltiad gyda Teuluoedd yn Cyntaf a Dechrau’n Deg. Byddai cyfle hefyd i edrych ar leoliadau statudol. Byddai’r cyllid ychwanegol yn helpu i ymchwilio pa gymorth arall fedrai fod ar gael ar gyfer y plant hynny a all fod wedi dioddef ar lefel is drwy beidio mynychu ysgol a thrwy’r ynysigrwydd cymdeithasol y gallant fod wedi eu brofi pan oedd yr ysgolion ar gau.
Cododd Aelod bryderon am gynnydd yng nghyfraddau COVID-19 ac amddiffyn staff ysgol. Mae rhai yn aros hyd at un wythnos ar gyfer canlyniadau, tra’u bod yn aros yn yr ysgol yn gofalu am ddisgyblion. Holodd os oedd ffordd i sicrhau fod staff ysgolion yn cael profion rheolaidd tebyg i staff mewn cartrefi gofal. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol fod y gyfradd wedi gostwng i 83 fesul 100,000 yn yr wythnos ddiwethaf felly mae cynnydd wrth ostwng y gyfradd mewn cymunedau. Yng nghyswllt porth y Deyrnas Unedig, efallai na all pobl gael mynediad i brofion yn lleol ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru i ganfod datrysiad. Mae labordy pellach yn ardal Casnewydd i alluogi cynnal 20,000 o brofion ychwanegol yn cael ei ddatblygu i ddod ar waith ym mis Tachwedd. Byddai angen i ... view the full Cofnodion text for item 8