7 Polisi Diogelwch Ar-lein 360 Gradd ar gyfer Ysgolion PDF 420 KB
Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg sy’n cyflwyno Polisi Diogelwch Ar-lein 360 gradd Safe Cymru ar gyfer ysgolion a gofynnodd Aelodau am farn aelodau ar y templed polisi cyn mabwysiadu’r polisi enghreifftiol ar gyfer ysgolion.
Siaradodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Caiff y polisi ei ddarparu gan Southwest Grid for Learning sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a’r bwriad yw sicrhau y gall dysgwyr ddefnyddio’r rhyngrwyd a chyfathrebu cysylltiedig mewn modd addas ac yn ddiogel. Roedd y teimladau polisi yn gynhwysfawr iawn ac yn rhoi sylw i ystod llawn o ystyriaethau ar gyfer diogelwch ar-lein a chaniateir ddefnyddio’r polisi hwn fel y mynnant i fod yn addas i’w lleoliad neilltuol. Byddai polisïau eraill sy’n bodoli eisoes o fewn ysgolion yn cael eu disodli pan weithredir y polisi.
Holodd y Cadeirydd pa ddulliau diogelu sydd ar gael i rieni roi ar ddyfeisiau eu plant. Dywedodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg fod Llywodraeth Cymru yn diweddaru eu gwefan ‘Cadw’n Ddiogel Ar-lein’ yn rheolaidd ac y byddai’n cynnwys dolen i’r ddogfen o fewn eu datganiad polisi. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwefan Bwrdd Diogelu Gwent hefyd yn rhoi cyngor ar ffurf syml ar fesurau rheoli rhieni yng nghyswllt dyfeisiau symudol a chyfrifiadur. Byddai’n cydlynu gyda’r Rheolwr Diogelu mewn Addysg i anfon y ddolen ar-lein i rieni.
Ategodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg sylwadau’r Cyfarwyddwr a dywedodd y datblygwyd protocol ar gyfer ffrydio addysgu ar-lein ac yn y blaen yn ystod pandemig COVID-19 i gefnogi rhieni a gellid trosglwyddo rhyw fath o gyfathrebiad gan ysgolion i rieni i’w cefnogi gyda’r mater hwn.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:
· anfon dolen Llywodraeth Cymru ‘Cadw’n Ddiogel Ar-lein’ i rieni; ac
· argymell fod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo’r polisi.