Mater - cyfarfodydd

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

Cyfarfod: 01/10/2020 - Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu (eitem 11)

11 Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 1 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu

Cofnodion:

Rhoddwyd i ystyriaeth adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2020/0148

The Bridge, Station Approach, Pontygof, Glynebwy

Newid defnydd i Feithrinfa, Storfa Biniau, Grisiau Dianc, Tirlunio a Maes Parcio Cysylltiedig

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cais cynllunio a nododd fod y pwyllgor yn flaenorol ar 11 Chwefror 2020 wedi gwrthod caniatâd cynllunio. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r rheswm dros wrthod oedd bod y safle wedi’i leoli o fewn parth llifogydd C2 fel y’i diffinnir gan TAN 15 a bod polisi cynllunio cenedlaethol yn cynghori na ddylid caniatáu defnydd bregus iawn tebyg i’r feithrinfa arfaethedig mewn ardal o’r fath. Mae’r cais presennol yn ailgyflwyniad sy’n ceisio goresgyn y rheswm hwnnw dros wrthod.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau fod manylion y cais yr un fath â’r rhai a gyflwynwyd yn flaenorol heblaw am ychwanegiad Nodyn Technegol ar Risg Llifogydd ar gyfer y safle a gomisiynwyd gan yr Ymgeisydd. Roedd y nodyn technegol ar wedd Asesiad Canlyniad Llifogydd (‘Asesiad’)  sy’n edrych ar achos tebygol llifogydd a’r risgiau.

 

Tynnodd Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Datblygu sylw Aelodau at ymgynghoriadau allanol a’r ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud fod y safle yn llwyr o fewn Parth C2 fel y’i diffinnir gan y Map Cyngor Datblygu (‘y Map’) y cyfeirir ato yn Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Risg Llifogydd (TAN15) Mae fframwaith TAN 15 hefyd yn cyfeirio at y categori datblygiad bregus, ac fel nodwyd mae’r gr?p hwn yn cynnwys meithrinfa. Derbyniwyd Asesiad yr ymgeiswyr ac amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth bwyntiau’r adolygiad a nododd, yn unol â’r Asesiad, na wnaed unrhyw wrthwynebiad am y datblygiad arfaethedig. Fodd bynnag, mae safle’r cais yn parhau ym Mharth C2 ac ni fyddai cyflwyno’r Asesiad yn newid y ffaith hon. Dylai’r Awdurdod Lleol felly benderfynu ar y cais yn seiliedig ar i’r lleoliad fod o fewn Parth C2.

 

Dywedwyd ymhellach y gellid herio parthau’r Map a byddai angen cyflwyno her ar ôl cwblhau unrhyw waith arfaethedig. Fodd bynnag, nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn heriau ar hyn o bryd, nes caiff TAN 15 ei ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth mai dim ond i ddatblygiad bregus isel ym Mharth C2 y dylid defnyddio profion. Mae’r datblygiad hwn yn fregus iawn. Nid yw’r Asesiad a’r profion yn TAN 15 i gael eu gweithredu mewn datblygiadau bregus iawn. Felly, roedd ystyried y datblygiad arfaethedig yng nghyswllt profion cyfiawnhad a derbynioldeb yn camddehongli polisi a gofynion TAN 15. Er fod hwn yn bwynt hollbwysig, cydnabu’r Rheolwr Gwasanaeth hefyd fod yr Asesiad wedi dod i’r casgliad bod trothwy llifogydd i raddau helaeth, ond nid yn llwyr, o fewn y gwerth canllaw a amlinellir yn TAN 15.

 

Daeth y Rheolwr Gwasanaeth i ben drwy ddweud fod y cais hwn yn un cymhleth. Mae budd creu swyddi lleol yn ogystal â gwella’r adeilad presennol. Fodd bynnag, mae’r materion llifogydd yn hollbwysig ac mae’r argymhelliad wedi ei seilio ar y canllawiau yn TAN 15 sy’n annog dull rhagofalu lle na chaniateir datblygiad bregus  ...  view the full Cofnodion text for item 11