6 Yr Economi – Aderiad Economaidd yn dilyn Covid-19 PDF 739 KB
Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.
Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu yr adroddiad sy’n nodi’r strategaeth arfaethedig ar gyfer Blaenau Gwent mewn ymateb i bandemig COVID-19, er mwyn cefnogi’r sectorau a busnesau yn y Fwrdeistref Sirol a rhoddodd ddiweddariad ar y gwaith sy’n mynd rhagddo’n lleol, ac yn bwydo i’r cynlluniau rhanbarthol.
Cyfeiriodd y Swyddog at gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru a chadarnhaodd fod yr Awdurdod yn dal i fod yn y dull ymateb, a dywedodd ei bod yn bwysig sicrhau fod yr Adran yn parhau i ddatblygu’r gwaith rhagweithiol sy’n mynd rhagddo, ynghyd â gweithgareddau adfer.
Mae pandemig COVID-19 a’r cyfnodau clo dilynol wedi ymyrryd ar fusnesau a chyflogaeth ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig, gan achosi problemau tymor byr a thymor hir ar draws llawer o sectorau. Mae’r adroddiad yn edrych ar gefndir data a gasglwyd gan wahanol sefydliadau a melinau trafod a gweithredu modelu i edrych ar y ffigurau diweithdra posibl ar gyfer Blaenau Gwent. Mae hefyd wedi ystyried yr holl fusnesau sydd angen cymorth a’r rhai a allai ychwanegu mwyaf i’r economi lleol ar gyfer y dyfodol.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad yn fanwl a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Yn nhermau’r ymagwedd strategol, mae hyn yn cynnwys cyfuniad o gamau gweithredu tymor byr a thymor hirach mewn amrywiaeth o sectorau a phartneriaid i gynorthwyo gyda chyflenwi effeithlon. Byddai’r prif feysydd, a restrir islaw, yn galw am ddull gweithredu rhanbarthol neu Gymru-gyfan, lle byddai angen i Flaenau Gwent ddylanwadu ar y gwaith adferiad economaidd:
• Cyngor technolegol, buddsoddiad a sgiliau gweithgynyrchu
• Rhaglen sgiliau digidol ar draws pob sector
• Cefnogaeth cadwyn gyflenwi, safleoedd ac adeiladau (cyfleusterau ar-draeth)
• Cymorth penodol ar gyfer cwmnïau twf ac ymchwil a datblygu ym Mlaenau Gwent
• Cynlluniau a ddynodir ar gyfer hyfforddiant cysylltiedig â gwaith 18-24 ôl-addysg (e.e. FJF)
• Adeiladu’r Economi Sylfaen
• Ehangu hygyrchedd drwy ddatrysiadau trafnidiaeth arloesol/ cynaliadwy
• Galluogi mwy o fusnesau newydd yn arbennig yng nghanol trefi ac ar-lein
• Cynnydd gyda’r cyfleuster profi fel buddsoddiad angor i wynebu’r dyfodol ym Mlaenau Gwent
Cadarnhaodd y Swyddog fod y gwaith eisoes wedi dechrau ar nifer o gynlluniau a hefyd y cafodd nifer o brosiectau eu hailweithio i roi ystyriaeth i’r hyn fydd ei angen ar ôl COVID-19.
Rhoddodd y Rheolwr Arloesedd Busnes drosolwg manwl o weithgaredd ymgysylltu a’r gefnogaeth ariannol a roddwyd i fusnesau ers 17 Mawrth 2020.
Mewn ymateb i gwestiwn am gapasiti o fewn yr Adran, dywedodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu fod yr Adran yn gweithio i gapasiti i gyflenwi prosiectau a bod partneriaid y Cyngor hefyd wedi bod yn cynorthwyo.
Holodd Aelod arall os derbyniwyd unrhyw ddiddordeb yng nghyswllt Cwm Technoleg.
Cadarnhaodd y Swyddog y daeth ymholiadau i law a bod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau na chollwyd y diddordeb hwnnw.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr unedau yn Roseheyworth, cadarnhaodd y Rheolwr Arloesedd Busnes y cafodd pob un o’r 4 uned eu cwblhau gyda phrydlesau wedi eu llofnodi ar 3 o’r unedau ... view the full Cofnodion text for item 6