Mater - cyfarfodydd

Home to School and Post 16 Transport Policy 2021/22: Approval and Publication (by October 1st 2020)

Cyfarfod: 16/09/2020 - Pwyllgor Gwaith (eitem 4)

4 Polisi Cludiant Rhwng y Cartref ac Ysgol ac Ôl 16: Cymeradwyaeth a Chyhoeddiad (erbyn 1 Hydref 2020) pdf icon PDF 517 KB

Ystyried adroddiad  y Rheolwr Trawsnewid Addysg. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg yr adroddiad ac amlinellu’r newidiadau polisi diwygiedig yn Atodiad 1. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Interim na fyddai unrhyw newid i bellter a dychwelyd at derfynau statudol.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Addysg fod gan Gynghorau ddyletswydd statudol i gyhoeddi eu polisïau Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl 16 erbyn 1 Hydref 2020. Tynnodd sylw Aelodau at Adran 2.3 yr adroddiad sy’n amlinellu fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn fwy hael yng nghyswllt hawl cludiant rhwng y cartref a’r ysgol na therfynau statudol Llywodraeth Cymru a bod hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i gefnogi disgyblion a dysgwyr.

 

Dywedodd yr Aelod y rhoddwyd ymrwymiad fel rhan o’r adolygiad blynyddol y byddai terfynau pellter y Cyngor yn parhau’r un fath ar gyfer gweddill y weinyddiaeth wleidyddol bresennol a gobeithiai y byddai hyn yn rhoi cysur i rieni.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo’r Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl-16 2021 (Atodiad 1) (Opsiwn 1).