9 Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020 PDF 660 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
ADOLYGIAD BLYNYDDOL RHEOLI TRYSORLYS
1 EBRILL 2019 I 31 MAWRTH 2020
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n rhoi cyfle i Aelodau graffu ar weithgareddau Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn ystod blwyddyn ariannol 2019/2020 dan bwerau a ddirprwywyd gan y Prif Swyddog Adnoddau. Cyfeiriodd y Prif Swyddog yr Aelodau at yr wybodaeth perfformiad a data a dywedodd i’r Awdurdod yn 2019/2020 gymryd £10m mewn dyled hirdymor gan awdurdodau lleol (PWLB) yn lle benthyciadau sy’n aeddfedu neu i gyllido gwariant cyfalaf.
Mae’r asiantaethau graddio credyd wedi israddio nifer o sefydliadau ariannol yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf gan nad ydynt mwyach yn diwallu meini prawf gofynnol yr Awdurdod ar gyfer cymeradwyaeth. Fodd bynnag, dywedodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod wedi perfformio’n dda yn nhermau Rheoli Trysorlys yn yr hinsawdd ariannol presennol ac amlinellodd y pwyntiau allweddol:-
· Sicrhawyd adenillion buddsoddiad o £61,000 gyda chyfradd log gyfartalog o 0.46%. Roedd hyn ychydig yn is na’r gyfradd meincnod o 0.54% ond mae’n adlewyrchu na all yr Awdurdod fuddsoddi mewn gwrthbartïon sy’n talu cyfraddau uwch oherwydd gostyngiadau graddiad credyd. Mae hyn yn unol â pholisi osgoi risg yr Awdurdod lle mae sicrwydd y swm cyfalaf yw’r brif flaenoriaeth ar draul adenillion buddsoddi mwy cystadleuol.
· Gosodwyd cyfradd log gyfartalog o 1.09% ar fenthyciadau dros dro o gymharu â meincnod o 1.00%, gan ostwng cyn belled ag sy’n bosibl y llog sy’n daladwy gan yr Awdurdod. Mae hyn er gwaethaf y cynnydd mewn cyfraddau marchnad yn dilyn y cynnydd o 1% mewn cyfraddau PWLB ym mis Hydref 2019 – mae hyn yn dystiolaeth o berfformiad da.
· Cydymffurfiwyd yn ystod y flwyddyn â holl derfynau’r Trysorlys a dangosyddion darbodus Rheoli Trysorlys a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
· Nid oedd unrhyw sefydliadau y gwnaed buddsoddiadau ynddynt yn ystod y cyfnod wedi cael unrhyw anhawster mewn ad-dalu buddsoddiadau a llog yn llawn. Felly nid yw’r Awdurdod yn agored i unrhyw golled ariannol fel canlyniad i’r hinsawdd economaidd anodd.
Cyfeiriodd Aelod at yr enillion buddsoddiad a sicrhawyd a gofynnodd os y byddai’r gyfradd is yn golygu at unrhyw oblygiadau i’r gyllideb yn y dyfodol.
Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau na ragwelir unrhyw bwysau cyllideb o’r gyfradd is a sicrhawyd, fodd bynnag nawr fod gan swyddogion well dealltwriaeth o effaith y PWLB, caiff hyn ei gynnwys mewn cynlluniau yn y dyfodol. Ychwanegodd y Prif Swyddog y rhoddir adroddiad i Aelodau os oes unrhyw bwysau yn dod i’r amlwg ar y gyllideb.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2, sef bod Aelodau wedi craffu ar y gweithgaredd rheoli trysorlys a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2019/2020 ac ni roddwyd unrhyw sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.