Mater - cyfarfodydd

Position Statement on the Council's CCTV System (April to August 2020)

Cyfarfod: 11/09/2020 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (eitem 10)

10 Datganiad Sefyllfa ar System Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) y Cyngor (Ebrill i Awst 2020) pdf icon PDF 525 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Prif Swyddog Adnoddau (SIRO ar gyfer CCTV), y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a’r Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar system CCTV y Cyngor ar gyfer y cyfnod yn ystod y pandemig Covid-19 o fis Ebrill i fis Awst 2020. Siaradodd y Prif Swyddog am yr adroddiad a rhoi trosolwg o’r wybodaeth perfformiad a’r data fel y’i manylir yn yr adroddiad. Daeth y Prif Swyddog Adnoddau i’r casgliad, er y bu problemau gweithredu lleol gyda chamerâu, bod y system CCTV yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth.

 

Nododd yr Aelod nad oedd camerâu wedi eu defnyddio oherwydd y pandemig a gofynnodd os y gellid yn awr osod y rhain mewn ardaloedd lle mae llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu dipio anghyfreithlon o fewn y Fwrdeistref.

 

Dywedodd y Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant fod protocolau a gweithdrefnau yn eu lle yn nhermau materion diogelwch technegol a chymunedol wrth leoli camerâu. Mae angen tystiolaeth ddigonol i ddefnyddio camerâu mewn ardaloedd penodol. Os oes ardaloedd yn achosi pryder o fewn gwahanol wardiau, awgrymwyd y gellid trafod y rhain gyda’r Swyddog Diogelwch Cymunedol.

 

Mewn ymateb i bryderon pellach am leoliadau, dywedwyd y cynhelir adolygiad blynyddol o safleoedd camerâu CCTV. Byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl  i bob safle lle cawsant eu gosod i barhau’n ‘fyw’ yn unol ag ardaloedd problem.

 

Teimlai Aelodau ei bod yn bwysig cynnwys CCTV ar y Flaenraglen Gwaith a nododd y Swyddog bod Adroddiad Cynnydd Blynyddol i’w gyflwyno ym mis Chwefror 2021. Cytunwyd y byddid yn cyflwyno’r adroddiadau yn flynyddol i sicrhau ei fod yn cwmpasu cyfnod da i gael tystiolaeth ddigonol.

 

Credai Aelod y dylai’r adroddiad blynyddol gynnwys cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ogystal â diweddariad ar gynnydd.

 

Cytunodd y Cadeirydd gyda’r sylwadau a wnaed a chafodd sicrwydd fod yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar y Flaenraglen Waith.

 

Nododd Aelod fod tanwariant ar y gyllideb CCTV a gofynnodd os y gellid defnyddio’r arian hwn i drin problemau gyda chamerâu nad ydynt yn gweithio mewn ardaloedd penodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol nad oedd y problemau yn y rhan fwyaf o achosion yn ymwneud â’r offer ond gyda WiFi neu’r rhwydwaith. Hysbyswyd y cynhelir adolygiad o’r systemau CCTV bob dydd Llun a dydd Iau i ddynodi unrhyw broblemau cyn ac ar ôl y penwythnos. Yn nhermau tanwariant, dywedwyd yn y rhan fwyaf o achosion y byddai’r arian hwn yn cael ei wario erbyn diwedd y flwyddyn i drin unrhyw broblemau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2, sef bod y Pwyllgor wedi ystyried a rhoi sylwadau ar y datganiad sefyllfa ar swyddogaeth CCTV yn ystod pandemig COVID-19.