7 Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 1 MB
Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion:
Cais Rhif C/2020/0109
14 Eureka Place, Glynebwy, NP23 6LG
Newid defnydd o annedd 3 ystafell wely i
HMO 6 ystafell wely a baeau parcio arfaethedig yn yr ardd gefn
Ar wahoddiad y Cadeirydd amlinellodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu y cais sy’n cyfeirio at newid defnydd arfaethedig o annedd 3 ystafell wely i d? amlfeddiannaeth (HMO) 6 ystafell wely a baeau parcio arfaethedig yng ngardd gefn 14 Eureka Place, Glynebwy.
Gwahoddodd y Cadeirydd sylwadau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Cododd Aelod bryderon yng nghyswllt problemau diogelwch tân a pharcio ar stryd orlawn iawn. Dywedodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu y byddai Rheoli Adeiladu yn sicrhau y gweithredir ac y cydymffurfir â rheoliadau diogelwch tân. Roedd y Rheolwr Tîm Amgylchedd Adeiledig yn ymwybodol o’r problemau parcio yn yr ardal, fodd bynnag mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn gosod nifer y gofodau parcio sydd eu hangen ac mae’r ddau fae parcio arfaethedig yng nghefn yr adeilad yn cydymffurfio gyda’r Canllawiau.
Dywedodd Aelod fod nifer cynyddol o adeiladau HMO yn cael eu cyflwyno am ganiatâd cynllunio a holodd os oes angen mabwysiadu polisi i roi arweiniad. Dywedodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu fod nifer cynyddol o HMO yn cael eu cymeradwyo fel math o ddefnydd preswyl ac y gall fod angen ystyried deddfwriaeth cynllunio ar ffurf HMO. Mae Aelodau wedi codi nifer o bryderon ond nid oeddent i gyd yn ystyriaethau cynllunio ac felly efallai na fyddai polisi HMO yn datrys rhai o’r materion a godwyd h.y. niwsans s?n ac yn y blaen.
Dywedodd Aelod fod nifer o HMO yn ei Ward a byddai’n croesawu polisi HMO i sicrhau dull gweithredu cyson ar draws y fwrdeistref.
Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth fod sesiwn wybodaeth am HMO yn cael ei hystyried yn y dyfodol agos ac y byddai’r sesiwn yn cynnwys asiantaethau eraill h.y. yr Heddlu, Bwrdd Iechyd, Priffyrdd ac yn y blaen. Cytunai gyda’i gyd-aelod y gall fod angen mabwysiadu polisi gan fod ceisiadau cynllunio ar gyfer HMO yn cynyddu.
Codwyd pryderon pellach yng nghyswllt y cais a chynhigiodd Aelod y dylid gwrthod y cais. Eiliwyd y cynnig hwn a chymerwyd pleidlais, gyda
4 Aelod yn cefnogi’r cynnig i wrthod y cais; a
5 Aelod yn cefnogi cymeradwyo’r cais.
Felly PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Cais Rhif C/2020/0043
Tir i’r dwyrain o Hill Crest View, Cwmtyleri, Abertyleri
Datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig
Ar wahoddiad y Cadeirydd, amlinellodd y Swyddog Cynllunio y cais oedd yn ymwneud â datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Hill Crest View, Cwmtyleri, Abertyleri.
Ar wahoddiad y Cadeirydd siaradodd Mr Peter Barnes (Pensaer), y Siaradwr Cyhoeddus, â’r Pwyllgor.
Dywedodd Mr Barnes fod y prosiect yn gymharol syml ond gyda nifer o gyfyngiadau economaidd ac ariannol. Roedd y datblygwyr wedi ystyried hyn a gallai’r prosiect fod yn hyfyw pe codid 28 o dai. Roedd y safle o fewn ardal o’r Cynllun Datblygu Lleol oedd wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad tai. Roedd y datblygwyr yn lleol i’r ardal ac yn barod i wneud mân newidiadau ... view the full Cofnodion text for item 7