Mater - cyfarfodydd

Quarterly Performance Information - Quarter 4 January – March 2020

Cyfarfod: 03/09/2020 - Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu (eitem 4)

4 Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol – Chwarter 4 Ionawr-Mawrth 2020 pdf icon PDF 544 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth berfformiad cyfredol y Cyngor fel sy’n dilyn:

 

Ffigur 1: roedd y Cyngor wedi penderfynu 100% o bob cais ar amser. Mae hyn yn cymharu gyda chyfartaledd Cymru o 85%.

 

Ffigur 2: ar gyfartaledd roedd yn cymryd 60 diwrnod o gofrestriad i benderfyniad i’r Cyngor benderfynu ar bob cais cynllunio. Cyfartaledd Cymru yw 83 diwrnod.

 

Ffigur 3: roedd 29% o benderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio yn groes i argymhellion y swyddog. Cyfartaledd Cymru yw 15%.

 

Llongyfarchodd Aelodau y Tîm Cynllunio am eu perfformiad ar gyfer chwarter 4 a holodd os gellid cynnal y perfformiad hwn yn yr amgylchiadau presennol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ei bod yn annhebyg y gellid cynnal y perfformiad hwn gan fod rhai Swyddogion Cynllunio yn dal i fod wedi eu hadleoli i ddyletswyddau Covid 19.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.