11 Rhyddhad Ardrethi Busnes –Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2020/2021 PDF 547 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Datganodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd fuddiant yn yr eitem hon ac, ar ôl cael cyngor cyfreithiol gan y Swyddog Monitro, arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y penderfyniad yng nghyswllt eitem 11.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Ar wahoddiad yr Arweinydd cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad i’r Pwyllgor Gweithredol ei ystyried a’i fabwysiadu, ar ran y Cyngor, cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2020/21, fel rhyddhad ardrethi ar ddisgresiwn adran 47 ar gyfer 2020/21.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at Atodiad 1 sy’n rhoi’r meini prawf a’r canllawiau ar gyfer gweithredu a chyflenwi’r cynllun.
Dywedodd nad yw Llywodraeth Cymru hyd yma wedi cadarnhau’r union ddyraniad cyllid ar gyfer Blaenau Gwent, ond ei bod wedi rhoi amcangyfrif o £3.5m ar gyfer cyflenwi’r cynllun. Rhagwelir y gall 300 busnes gael budd o’r cynllun os caiff ei fabwysiadu ac er mwyn rhoi cymorth i drethdalwyr, mae’n rhaid i’r Cyngor benderfynu mabwysiadu’r cynllun ar gynllun rhyddhad ardrethi ar ddisgresiwn yn unol ag Adran 47 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Nododd yr Arweinydd y byddai nifer o sefydliadau yn croesawu’r cynllun hwn.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd/Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd fod y pwnc hwn yn faes yr oedd busnesau manwerthu ym Mlaenau Gwent wedi ymgyrchu arno am flynyddoedd lawer a gobeithiai y byddai’r rhyddhad ardrethi yn parhau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn mabwysiadu cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2020/21 ar ran y Cyngor, i atodi cynllun rhyddhad ardrethi ar ddisgresiwn y Cyngor. (Opsiwn 2).