9 Monitro’r Gyllideb Gyfalaf, All-dro Darpariaethol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2019/2020 PDF 491 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Ar wahoddiad y Cadeirydd cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi manylion y sefyllfa all-dro ariannol ddarpariaethol hyd at ddiwedd Mawrth 2020 ar draws pob portffolio (yn amodol ar archwiliad); ac unrhyw amrywiadau sylweddol niweidiol a/neu ffafriol.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at baragraffau 5.1.2 a 5.1.3 fod deiliaid cyllideb yn gyffredinol wedi cynnal gwariant o fewn y prif gyfanswm ar gyfer cynlluniau cyfalaf a gymeradwywyd, ac y caiff cyllid blynyddoedd y dyfodol o £59m yn cynnwys grantiau allanol a chyllid yr Awdurdod eu hun eu cario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.
Nododd yr Arweinydd fod hwn yn adroddiad cadarnhaol iawn.
PENDERFYNWYD derbyn yr her a bod y Pwyllgor Gweithredol yn:
· Rhoi her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;
· Parhau i gefnogi gweithdrefnau rheolaeth ariannol briodol a gytunwyd gan y Cyngor; a
· Nodi’r gweithdrefnau rheoli a monitro cyllideb sydd ar waith o fewn y Tîm Cyfalaf, i ddiogelu cyllid yr Awdurdod. (Opsiwn 1)