8 Monitro’r Gylideb Revfeniw – All-dro Darpariaethol 2019/2020 PDF 704 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi manylion sefyllfa all-dro ddarpariaethol ddiwedd 2019/2020; yr amrywiadau niweidiol sylweddol o fewn portffolios; yr all-dro darpariaethol ar gyfer Ffioedd a Thaliadau; a’r cynnydd ar gyflawni’r prosiectau effeithiolrwydd ariannol ar gyfer 2019/2020.
Cyfeiriodd y Swyddog at baragraff 5.1.3 sy’n dangos y sefyllfa gyffredinol ar draws pob portffolio.
Nododd fod yr all-dro darpariaethol o £0.48m o amrywiad ffafriol yn sefyllfa sylweddol well na’r rhagolwg ym mis Rhagfyr 2019, a hefyd yn dangos y costau a wnaed fel canlyniad i lifogydd difrifol ym mis Chwefror 2020.
Wedyn cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at Atodiad 1 a rhoddodd drosolwg byr o’r amrywiadau ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth.
Cyfeiriodd hefyd at baragraffau 5.1.25 – 5.1.27 sy’n rhoi manylion y Ffioedd a Thaliadau.
Yn olaf, tynnodd sylw Aelodau at baragraff 5.1.29 a’r Prosiectau Effeithiolrwydd Ariannol a’r targed o £3.35m ac y cyflawnwyd 98% (£3.28m) o hynny.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad, a nododd y gwelliant hynod o fis Rhagfyr 2019; ac ategodd pa mor dda y gwnaeth y Cyngor dros y 2 i 3 blynedd ddiwethaf wrth reoli ei gyllideb. Aeth ymlaen drwy ddweud ei fod yn dangos y gall Cyfarwyddiaethau drwy gydweithio gyflawni’r targedau a osodir. Mae’r ymrwymiad parhaus i’r strategaeth ariannol wedi rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa dda i gyflawni’r targed ar ddiwedd y flwyddyn.
Nododd y byddai amrywiadau niweidiol yn parhau i’r flwyddyn ariannol gyfredol a gofynnodd am eglurhad y byddai’r is-gr?p Pwysau Cost yn parhau i gwrdd i fonitro’r materion hynny yn barhaus.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai’r is-gr?p Pwysau Cost yn parhau i gwrdd.
Siaradodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol am y sefyllfa ariannol a llongyfarchodd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyflawni ei amrywiad ffafriol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol wedi ystyried a chymeradwyo’r adroddiad ac wedi rhoi her priodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad. (Opsiwn 1)