Mater - cyfarfodydd

Profi, Olrhain a Diogelu

Cyfarfod: 24/06/2020 - Pwyllgor Gwaith (eitem 7)

7 Profi, Olrhain a Diogelu pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Prif Swyddog Masnachol yr adroddiad sy’n rhoi manylion y trefniadau a roddwyd ar waith i sefydlu olrhain cysylltiadau ym Mlaenau Gwent fel rhan o’r ymateb rhanbarthol i Gynllun Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at Adran 3 a rhoddodd drosolwg o rolau a chyfrifoldebau y gwasanaeth. Rhoddodd hefyd wybodaeth ar fanylion gweithredol y gwasanaeth.

 

Nodwyd y byddai’r gwaith dechreuol yn canolbwyntio ar brofi staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal a hyd yma bu lefel y profi yn eithaf isel. Fodd bynnag, rhagwelir y byddai’r ffigurau yn cynyddu wrth i fesurau cyfnod clo gael eu llacio; a nodwyd ei bod yn debygol y byddai’r gwasanaeth yn parhau tan fis Mawrth 2021.

 

Yna, yng ngoleuni’r cyhoeddiad dros yr ychydig ddyddiau fod potensial cryf y bydd cyfleuster profi yn cael ei leoli yn safle Glofa Marine yn Cwm, gofynnodd yr Arweinydd i swyddog roi datganiad byr.

 

Atebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr drwy ddweud y gwnaed cais yn yr ychydig ddiwethaf diwethaf pan roedd Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cysylltu â’r Cyngor i ganfod safleoedd posibl yn y fwrdeistref ar gyfer canolfan profion drwy ffenest y car. Roedd y Cyngor wedi croesawu eu diddordeb mewn cael canolfan profi yn yr ardal. Dangoswyd safleoedd posibl i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a dewiswyd Glofa’r Marine yn Cwm, yn bennaf oherwydd ei faint. Mae swyddogion yn awr yn mynd drwy’r cynlluniau i wneud yn si?r y byddai’r safle yn addas a dylai profion ddechrau’r wythnos nesaf. Nododd fod canolfannau profi drwy’r ffenestr yn rhan o ymagwedd genedlaethol at brofion, drwy system genedlaethol, a’i fod yn cysylltu’n daclus â gwaith olrhain cyswllt lleol, a chaiff unrhyw ganlyniadau eu bwydo i’r tîm. Roedd hyn yn newyddion cadarnhaol i Flaenau Gwent ac mae swyddogion wedi gweithio’n gyflym dros yr ychydig ddyddiau diwethaf a disgwylir cyhoeddiad ffurfiol dros yr ychydig ddyddiau nesaf.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog Masnachol a swyddogion eraill a gymerodd ran am eu gwaith ar y prosiect Profi, Olrhain a Diogelu, a fyddai’n hanfodol i lacio mesurau’r cyfnod cloi ymhellach.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn nodi a chymeradwyo Olrhain Cysylltiadau ym Mlaenau Gwent fel rhan o’r dull gweithredu rhanbarthol yng Ngwent ac i gefnogi cynllun cenedlaethol Profi, Olrhain a Diogelu cenedlaethol. (Opsiwn 1)