Mater - cyfarfodydd

Argyfwng Covid-19 – Pontio i’r Cyfnod Nesaf

Cyfarfod: 24/06/2020 - Pwyllgor Gwaith (eitem 5)

5 Argyfwng Covid-19 – Pontio i’r Cyfnod Nesaf pdf icon PDF 668 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yr adroddiad sy’n cadarnhau ymateb strategol y Cyngor i argyfwng Covid-19 ac i amlinellu’r camau nesaf wrth i Gymru symud i gyfnod nesaf y pandemig, gyda llacio cyfyngiadau symud ac ail-ddechrau gwasanaethau yn raddol.

 

Soniodd y Swyddog, yng nghyswllt yr argyfwng cenedlaethol, fod y Cyngor wedi sefydlu ei drefniadau cynllunio argyfwng ym mis Mawrth 2020, fel y manylir ym mharagraff 2 yr adroddiad.

 

Mae Adran 3 yr adroddiad yn rhoi manylion peth o’r gwaith y bu’r Cyngor yn ei wneud yn ystod y cyfnod clo ac y cafodd y ffocws ei symud i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn unig gyda’r adnoddau eraill oedd ar gael yn cael eu hadleoli i gefnogi’r ymateb argyfwng, a gaiff eu manylu ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

 

Roedd yr ymateb i’r argyfwng hefyd yn cynnwys cau ysgolion a chafodd hybiau ysgol eu sefydlu i roi cefnogaeth i weithwyr allweddol. Dywedodd y bu gwaith partneriaeth da gydag ysgolion a bod y Cyngor wedi parhau i gefnogi teuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol rhad ac am ddim. Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn cefnogi dros 2000 teulu yr wythnos drwy daliadau uniongyrchol.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr wedyn at baragraffau 3.4 i 3.9 sy’n rhoi manylion y penderfyniadau a wnaeth y Cyngor yn ystod y pandemig e.e. sefydlu timau ymateb ardal i gefnogi pobl fregus yn y gymuned drwy wahanol grantiau Llywodraeth Cymru. Fel sefydliad mae’r Cyngor hefyd wedi newid y ffordd y mae’n gweithredu, e.e. gweithio gartref a defnydd effeithlon o dechnoleg newydd, sydd hefyd wedi ei fabwysiadu gan Aelodau.

 

Mae paragraff 3.10 yr adroddiad yn amlygu sut effeithiodd y pandemig ar weithlu’r Cyngor gyda lefelau uchel o absenoldeb ar ddechrau’r pandemig ar tua 18%, fodd bynnag mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos fod absenoldeb staff wedi gostwng a bod ychydig dan 3% o staff heb fod ar gael i weithio, yn bennaf oherwydd rhai sydd ar y rhestr gwarchod ac yn methu gweithio o gartref.

 

Mae Adran 5 yn rhoi manylion y pontio i’r cyfnod nesaf a sut y gallai’r Cyngor ailddechrau ei wasanaethau tra’n dal i fod yn ymwybodol nad yw’r pandemig drosodd. Sefydlwyd Gr?p Cydlynu Adferiad i arwain y gwaith adfer yng Ngwent a bydd y cyfarfod cyntaf ar 24 Mehefin 2020, byddai Blaenau Gwent wedyn yn sefydlu ei gr?p ei hun.

 

Fel rhan o’r camau nesaf bydd y Cyngor yn diweddaru ei flaenoriaethau corfforaethol i gynnwys yr hyn a ddysgwyd dros yr ychydig fisoedd diwethaf a’r arfer da i symud ymlaen i’r dyfodol.

 

Daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr i ben drwy sôn fod angen i’r Cyngor ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol a ddigwyddodd, sy’n cynnwys gweithio gyda’n partneriaid a’n cymunedau a chyfeiriodd at yr argymhellion yn Adran 7.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd/Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y bu’r gefnogaeth a roddwyd i fusnesau gan yr Adran Adfywio yn wych, fodd bynnag mae llawer o waith yn dal ar ôl, a nododd bod y gwahaniaethau rhwng Lloegr a  ...  view the full Cofnodion text for item 5