15 Monitro’r Gyllideb Gyfalaf, Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2019/2020 PDF 510 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau drosolwg i Aelodau o wariant cyfalaf gwirioneddol a rhagolwg pob Portffolio ar gymeradwyaeth cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 fel ar 31 Rhagfyr 2019.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cefnogi Opsiwn 1, sef:-
· rhoi’r her priodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;
· parhau â’r gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor; a
· nodi gweithdrefnau rheoli a monitro cyllideb i fod yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.